Mater - cyfarfodydd
Social Services Annual Report
Cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet (eitem 164)
164 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 94 KB
Pwrpas: I ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gwerthuso'r perfformiad o ran bodloni’r blaenoriaethau gwella a darparu gwasanaethau cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn edrych ar berfformiad darpariaeth yr awdurdod lleol o’i swyddogaethau gofal cymdeithasol a’i flaenoriaethau gwella.
Diben Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd nodi’r daith tuag at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.
Roedd fformat yr adroddiad wedi newid ac roedd bellach yn cyd-fynd yn agosach at y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol, fyddai’n dangos perfformiad o ran cyflawni canlyniadau lles pobl Sir y Fflint. Bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint.
Canlyniad yr asesiad cyffredinol oedd bod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn parhau i gymell gwelliant yn y gwasanaeth, gan sicrhau bod ystod effeithiol o wasanaethau o ansawdd da yn cefnogi ac yn diogelu pobl ddiamddiffyn. Amlinellodd yr Adroddiad Blynyddol hefyd y blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2017/18, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gyflwyno ei Adroddiad Blynyddol i gyfarfod Cabinet, a diolchodd am waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a ddarparodd gyfeiriad pendant i arddull y ddogfen, a gynhyrchwyd wedi hynny gan Double Click.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r adroddiad, sy’n darparu cyfrif cywir a chlir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint.