Mater - cyfarfodydd
Quarter 3 Improvement Plan 2016/17 Monitoring Report
Cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet (eitem 168)
168 Adroddiad Monitro Chwarter Tri Cynllun Gwella 2016/17 PDF 129 KB
Pwrpas: Rhoi trosolwg o’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyflawni'r effeithiau fel y'u nodir yng Nghynllun Gwella 2016/17.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun Gwella 2016/17 oedd yn nodi sut y monitrwyd cynnydd y trydydd chwarter o Hydref i Ragfyr 2016.
Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod yn adroddiad cadarnhaol gyda 95% o’r camau y cytunwyd arnynt yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 58% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Yn ogystal â hyn, mae 72% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y chwarter. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (55%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (34%).
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac ni chodwyd unrhyw faterion.
PENDERFYNWYD
(a) Cytuno ar y canlynol:
· Lefelau cynnydd a hyder yng nghyflawniad gweithgareddau lefel uchel sy’n ceisio cyflenwi effeithiau’r Cynllun Gwella;
· Perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad y Cynllun Gwella; a’r
· Lefelau risg cyfredol ar gyfer y risgiau a amlygwyd yn y Cynllun Gwella
(b) Y gall yr Aelodau fod yn sicr o’r cynlluniau a'r camau i reoli cyflawniad Cynllun Gwella 2016/17 yn amodol ar sylwadau adolygiadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.