Mater - cyfarfodydd
Amendments to the Constitution
Cyfarfod: 01/03/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 100)
100 Newidiadau i’r Cyfansoddiad PDF 70 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth iddo ef a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i wneud newidiadau gweinyddol i’r Cyfansoddiad, fel diweddaru teitlau swyddi yn dilyn newidiadau strwythurol. Ni fyddai newidiadau yn cael eu gwneud i’r maes dirprwyo a byddai'r holl newidiadau strwythurol yn parhau i fod yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Lle mae unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn llwyr i ddynodi swyddog yn codi o ailstrwythuro, fod y Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cael eu hawdurdodi i wneud y newidiadau hynny i'r Cyfansoddiad; a
(b) Bod Aelodau yn cael eu hysbysu a’u diweddaru am unrhyw newidiadau i ddynodiadau swyddog yn codi o ailstrwythuro.