Mater - cyfarfodydd
Leisure, Libraries and Heritage Alternative Delivery Model – Staffing Structure Proposals
Cyfarfod: 14/02/2017 - Cabinet (eitem 159)
Model Cyflenwi Amgen ar gyfer gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth - Cynigion Strwythur Staffio
Pwrpas: Cymeradwyo'r strwythur y gweithlu arfaethedig
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Restricted enclosure 4
- Restricted enclosure 5
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad Model Cyflenwi Amgen ar gyfer Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd Threftadaeth – Cynigion Strwythur Staffio, oedd yn canolbwyntio ar weithredu ailstrwythuro haenau 3 a 4 Hamdden a Llyfrgelloedd o fewn y cwmni newydd er mwyn darparu’r strwythur gorau posibl, yn effeithlon, ac yn addas at y diben yn barod ar gyfer y trosglwyddiad arfaethedig ym mis Gorffennaf 2017.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Egwyddorion Dylunio ar gyfer yr ailstrwythuro yn cael eu cytuno;
(b) Cytuno ar y strwythur rheoli haenau 3 a 4 ar gyfer Hamdden a Llyfrgelloedd y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau a all fod angen eu gwneud ar ôl graddio'r swyddi, er mwyn sicrhau bod y strwythur yn aros o fewn y gyllideb y cytunwyd arni, a
(c) Bod recriwtio i'r haenau rheoli yn cychwyn yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2017.