Mater - cyfarfodydd
Strategic Housing and Regeneration Programme - Batch 3 Proposed Schemes
Cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet (eitem 165)
165 Cynlluniau Arfaethedig Llwyth 3 RHTAS PDF 135 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y rownd nesaf o gynlluniau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Cynlluniau Arfaethedig Llwyth 3 y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), oedd yn ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen i gamau nesaf rhaglen SHARP y Cyngor. Roedd hyn yn cynnwys cynllun manwl o waith hyfywedd ar ystod o safleoedd allai o bosib ddarparu 363 yn ychwanegol o gartrefi rhent cymdeithasol, rhent fforddiadwy a pherchnogaeth fforddiadwy.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod y safleoedd sydd i’w cynnwys yn y rhaglen i gyd ar wahanol gamau datblygu. Y Cyngor oedd yn berchen ar rai safleoedd ac roedd eraill yn destun trafodaethau pryniant masnachol. Dylid diystyru’r safleoedd a amlinellir ym mharagraffau 1.21 ac 1.22 gan eu bod wedi’u cynnwys mewn camgymeriad.
Roedd angen gwaith dichonolrwydd ar rai safleoedd i’w symud ymlaen ymhellach, ac roedd y rheiny oedd wedi’u datblygu bellaf wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad gyda manylion pob safle, gan gynnwys cynlluniau safle. Darparodd yr adroddiad hefyd ddiweddariad ar y Cyllid Cyfalaf newydd gan Lywodraeth Cymru (LlC) oedd ar gael, fyddai’n helpu ehangu’r SHARP.
Y targed gwreiddiol ar gyfer tai’r Cyngor oedd adeiladu 200 o gartrefi dros 5 mlynedd. Nododd yr adroddiad y gellid adeiladu 277, ac y gellid cynyddu hyn ymhellach pe bai’r cap ar fenthyca yn cael ei godi.
Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, bydd ymgynghoriad ehangach yn cychwyn.
Canmolodd y Cynghorydd Attridge y swyddogion a’r Aelod Cabinet am y gwaith ar y cynllun a welodd Gyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd ar adeiladu Tai Cyngor, o ganlyniad i gyfarwyddyd y Cabinet. Bu i Aelodau Cabinet eraill hefyd dalu teyrnged i’r swyddogion a achosodd i’r cynllun llwyddiannus ddwyn ffrwyth.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod lefel yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn amrywio o gynllun i gynllun ac yn dibynnu ar ba gam o’r broses roedd pob safle arno. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai rhan o’r rhaglen sefydlu i Aelodau yn dilyn yr etholiad lleol yn cynnwys manylion unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill neu yn yr arfaeth yn eu ward hwy. Ychwanegodd bod tai yn ganolbwynt yn y Strategaeth Twf Rhanbarthol ac awgrymodd argymhelliad ychwanegol fydd yn darllen: “bod galwad Cyngor Sir y Fflint am godi’r cap ar fenthyca yn cael ei gynnwys yn ffurfiol yn y Strategaeth Twf Rhanbarthol”, a chefnogwyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno mewn egwyddor ar ddatblygu 363 o dai newydd fel rhan o raglen adeiladu tai'r Cyngor (SHARP). Bydd hyn yn cynnwys 195 o eiddo’r Cyngor, 95 eiddo rhent fforddiadwy a 73 eiddo perchnogaeth fforddiadwy;
(b) Cymeradwyo costau ymchwilio safleoedd o £421, 616k er mwyn gallu cwblhau gwerthusiadau cynllun llawn cyn ei gymeradwyo'n derfynol. Caiff y rhain eu dosrannu fel a ganlyn; 66% o gost HRA (£278,266) a 44% o gost Cronfa’r Cyngor (£143,350) a delir gan NEW Homes pe bai’r datblygiad yn mynd rhagddo;
(c) Cynnwys galwad Cyngor Sir y Fflint am godi’r cap ar fenthyca yn ffurfiol yn y Strategaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.