Mater - cyfarfodydd
School Admission Arrangements 2018
Cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet (eitem 172)
172 Trefniadau Derbyn i Ysgol 2018 PDF 82 KB
Pwrpas: Cymeradwyaeth Flynyddol o’r Trefniadau Derbyn
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for School Admission Arrangements 2018, eitem 172 PDF 101 KB
- Enc. 2 for School Admission Arrangements 2018, eitem 172 PDF 69 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad Trefniadau Derbyn Ysgolion 2018 oedd yn darparu manylion yr ymarfer ymgynghori statudol ar y trefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2018.
Yn ystod y broses ymgynghori, cafwyd sylw gan bennaeth ysgol gynradd ar dderbyniadau o’r Meithrin i’r Derbyn o ystyried na chafodd sawl disgybl Meithrin le yn nosbarth Derbyn yr un ysgol y flwyddyn flaenorol. Awgrymwyd y dylid gwneud addysg Feithrin yn statudol neu dynnu'r ddarpariaeth yn ôl yn gyfan gwbl. Adlewyrchwyd y farn honno ymysg rhai o’r penaethiaid cynradd eraill. Fodd bynnag, roedd yr awdurdodau lleol wedi’u cyfyngu gan God Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, sy’n nodi’n glir nad yw mynychu addysg Feithrin yn statudol ac nad oes a wnelo dim â dyrannu lleoedd yn y dosbarth Derbyn.
Roedd yr amserlen dderbyniadau wedi’i llunio mewn ymgynghoriad ag awdurdodau cyfagos, ac yn rhoi ystyriaeth i ffactorau fel rhoi digon o amser i rieni ymweld ag ysgolion a mynegi eu dewisiadau. Ni chynigwyd unrhyw newidiadau i’r meini prawf derbyn, ond cymerwyd y cyfle i ddiwygio’r geiriad er mwyn annog rhieni i nodi mwy nag un dewis o ysgol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2018/19.