Mater - cyfarfodydd
Improvement Plan 2016/17 Outturn Report
Cyfarfod: 17/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 11)
11 Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwelliant 2016/17 PDF 135 KB
Pwrpas: Galluogi Aelodau i gyflawni eu rôl graffu mewn perthynas â rheoli perfformiad.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad diweddariad i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yn y Cynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.
Roedd yr adroddiad yn nodi canlyniadau cadarnhaol yn gyffredinol gyda llithriad bach ar y Trosglwyddo Ased Cymunedol a’r Model Cyflawni Amgen fel yr eglurwyd yn gynharach yn y cyfarfod. Nid oedd yr un o’r dangosyddion perfformiad chwarterol na meysydd risg wedi eu nodi’n goch. Dywedodd y Prif Swyddog bod y meysydd yng Nghynllun (Gwella) newydd y Cyngor ar gyfer 2017-23 oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor o dan y flaenoriaeth 'Cyngor Cysylltiol'.
Holodd y Cadeirydd am y dyddiadau terfyn a statws cwblhau a ddangoswyd ar ddatblygiad mentrau cymdeithasol a dywedwyd y rhagwelir y byddai hwn yn brosiect tair blynedd.
Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Ian Dunbar, rhoddwyd diweddariad ar gwblhau Trosglwyddo Ased Cymunedol yn ystod y flwyddyn. Ar Gam 4 Neuadd y Sir, hysbyswyd yr Aelodau nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ond gwneir mwy o waith dros amser.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad canlyniad Cynllun Gwella 2016/17 yn cael ei nodi.