Mater - cyfarfodydd
NEWydd Catering and Cleaning Progress Review
Cyfarfod: 19/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 50)
Adolygiad Cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd
Pwrpas: Adolygu cynnydd NEWydd ers iddo sefydlu yn 2017
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (50/2)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydiladol 1) adroddiad er mwyn galluogi’r Pwyllgor i adolygu cynnydd NEWydd ers ei sefydlu yn 2017. Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahoddwyd Darren Jones – Cadeirydd y Bwrdd, a Steve Jones – Rheolwr-gyfarwyddwr, i adrodd ar sut roedd y newid wedi dod yn ei flaen ac ar Gynllun Busnes NEWydd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.
Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch prydau ysgol a gwasanaethau glanhau. Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn gwybodaeth bellach am brydau ysgol am ddim pan fyddai’n briodol.
Diolchodd y Cadeirydd i Darren Jones a Steve Jones am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau’r Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn diolch i NEWydd am yr esboniad o’u Cynllun Busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19; a
(b) Nodi a chroesawu cynnydd NEWydd a oedd wedi cael blwyddyn gyntaf dda o fasnachu.