Mater - cyfarfodydd

Conduct of a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver

Cyfarfod: 27/07/2017 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 4)

Ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: I Aelodau ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni ac ystyried a yw’n dal i fod yn unigolyn cymwys ac addas i barhau i ddal trwydded

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbydau Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd) ac i benderfynu a oedd yn parhau i fod yn berson addas a phriodol o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i barhau i ddal trwydded o’r fath. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at un o wrandawiadau’r Is-bwyllgor a oedd wedi cael ei gynnal ar 3 Ebrill 2017. Nododd fod gwybodaeth wedi ei derbyn gan adran Galwedigaethau Hysbysadwy Heddlu Gogledd Cymru ar ôl yr Is-Bwyllgor, a oedd wedi ei datgelu at y diben o hysbysu’r Adran Drwyddedu am berygl posibl. Cyfeiriwyd y mater at yr Is-bwyllgor Trwyddedu gan fod y digwyddiad wedi digwydd cyn y gwrandawiad ar 3 Ebrill 2017 a theimlwyd y dylai’r Panel fod wedi cael cyfle i ystyried hyn yn y cyfarfod hwnnw.

 

                        Gofynnodd y Cadeirydd i Ddeiliad y Drwydded egluro amgylchiadau’r digwyddiad fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd Deiliad y Drwydded fod honiad wedi ei wneud iddo ymddwyn yn amhriodol pan roedd wedi cludo teithiwr i'w chartref. Gwadodd yr honiad a dywedodd ei fod wedi “mynd allan o’i ffordd” i ddarparu cymorth i’r teithiwr ac wedi ei helpu hi drwy gario ei bagiau siopa at y drws.  Dywedodd Deiliad y Drwydded fod y g?yn wedi ei synnu gan ei fod wedi bod yn gymdeithasol gyda’r cwsmer ond nad oedd wedi gwneud unrhyw sylwadau nac ystumiau personol tuag ati. Pan holwyd Deiliad y Drwydded gan y Cadeirydd, cadarnhaodd ei fod wedi rhoi “cusan ar foch” y cwsmer wrth iddo ffarwelio â hi wrth ddychwelyd i’w gerbyd ond dywedodd nad oedd wedi bwriadu ei phechu. Eglurodd ei fod yn ystyried ei weithred yn ymddygiad “cymdeithasol” arferol a dywedodd ei fod yn mwynhau ei swydd â chwrdd â phobl. Pan gafodd ei gwestiynu ymhellach, dywedodd Deiliad y Drwydded nad oedd yn adnabod y cwsmer ac nad oedd wedi cymryd "archeb” ganddi o’r blaen. Gwnaeth Deiliad y Drwydded gydnabod y gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn amhriodol..  

 

Cwestiynodd y Panel Ddeiliad y Drwydded a’r Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat ynghylch y camau oedd wedi eu cymryd gan Heddlu Gogledd Cymru ers hynny. 

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i Ddeiliad y Drwydded egluro pam nad oedd wedi datgelu’r honiad yn y cyfarfod blaenorol. Cwestiynodd y Cyfreithiwr Ddeiliad y Drwydded ymhellach am ei weithredoedd pan roedd wedi mynd â’i gwsmer i’w chartref.Cadarnhaodd Deiliad y Drwydded a’r Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat, er fod y digwyddiad wedi digwydd cyn y gwrandawiad nad oedd yr honiad wedi ei hysbysu i’r naill na’r llall ohonynt tan ar ôl y gwrandawiad ar 3 Ebrill 2017. Pan gafodd ei holi, atebodd Deiliad y Drwydded gan ddweud ei fod yn ystyried ei hun yn berson addas a phriodol i ddal trwydded ac ail-bwysleisiodd ei fod yn mwynhau ei swydd a’i fod yn cynnig cymorth i’w gwsmeriaid os oedd angen a’i fod yn ymgysylltu â nhw mewn modd cymdeithasol.  

 

Gofynnodd y Panel i Ddeiliad y Drwydded pam nad oedd wedi adrodd y digwyddiad i’w  ...  view the full Cofnodion text for item 4