Mater - cyfarfodydd

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Cyfarfod: 27/07/2017 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 3)

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei drwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu euogfarn. Pan dderbyniwyd Datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yr ymgeisydd, dangoswyd rhagor o euogfarnau. Atodwyd eglurhad ysgrifenedig o’r holl euogfarnau i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr eglurhad ysgrifenedig a atodwyd i’r adroddiad i ymdrin â’i euogfarnau a rhoddodd ragor o wybodaeth gefndirol ac eglurhad ar gyfer pob un o'r troseddau. Ymatebodd hefyd i’r cwestiynau a ofynnwyd ynghylch ei amgylchiadau personol a theuluol a’i gefndir cyflogaeth a chymerodd y cyfle i ddosbarthu tystiolaeth ategol i’r Panel.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad yngl?n â pham bod yr ymgeisydd wedi methu datgelu'r holl euogfarnau ar y ffurflen gais am drwydded oedd ond yn cyfeirio at un euogfarn, er bod y ffurflen wedi gofyn am fanylion unrhyw droseddau.  Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi tybio yn anghywir mai dim ond yr euogfarn diweddaraf oedd yn berthnasol a bod yr euogfarnau blaenorol, a oedd yn dyddio yn ôl sawl blwyddyn, wedi eu treulio ac nad oedd angen eu datgelu. Dywedodd yr  ymgeisydd ei fod yn difaru cyflawni pob un o’i droseddau ac ail-bwysleisiodd eu bod wedi digwydd yn sgil ei amgylchiadau personol. Dywedodd ei fod wedi cyflawni rhai o’r troseddau yn ystod ei ieuenctid ac nad oedd wedi cael unrhyw euogfarnau ers sawl blwyddyn ers hynny.

 

Cwestiynodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn drwyadl ynghylch ei euogfarn diweddaraf a gofynnodd iddo roi eglurhad pellach ynghylch yr amgylchiadau a oedd wedi peri iddo gyflawni’r drosedd a’r ddedfryd roedd wedi ei chwblhau.  

 

Pan ofynnwyd i’r ymgeisydd, ymatebodd gan ddweud ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn addas a phriodol i gael trwydded ac ail-bwysleisiodd mai camgymeriad anfwriadol oedd hepgor ei euogfarnau blaenorol ar ei ffurflen gais.  Mewn ymateb i gais gan y Panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ar ei ragolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol pe bai ei gais yn llwyddo. 

 

                        Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.      

 

3.1       Penderfyniad am y Cais  

 

                        Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad.    Wrth ystyried, mynegwyd pryderon am onestrwydd yr ymgeisydd gan nad oedd wedi datgelu ei holl euogfarnau. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau pob achos a'r amser a oedd wedi mynd heibio ers ei euogfarn diweddaraf a theimlwyd fod yr ymgeisydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3