Manylion y penderfyniad
Shared Prosperity Fund
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the development of the
programme and to request approval for the framework of priorities
and processes needed to effectively operate the programme.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad, gan egluro y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad o £2.5 biliwn hyd at fis Mawrth 2025 ar draws y DU. Nod y rhaglen oedd “meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd”. Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £126 miliwn i Ogledd Cymru ar gyfer darparu’r rhaglen rhwng 2022/2023 a 2024/2025 ac roedd £10.8 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir y Fflint ar gyfer y rhaglen graidd.
Roedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr isadeiledd rheoli rhaglen, yn lleol ac yn rhanbarthol, ac yn nodi’r blaenoriaethau a argymhellir ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â’r meini prawf a fyddai’n cael ei ddefnyddio i asesu’r prosiectau sy’n ceisio cyllid drwy’r rhaglen.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad eang ar brosiectau strategol y Cyngor, a oedd wrthi’n cael eu datblygu’n barod ar gyfer y rhaglen.
Enwebwyd Cyngor Gwynedd fel y prif gorff sy’n atebol am y rhaglen yng Ngogledd Cymru. Cyn i Lywodraeth y DU gymeradwyo’r rhaglen, bu swyddogion o’r chwe awdurdod lleol yn paratoi’r systemau sydd eu hangen ar gyfer dyrannu a rheoli cyllid y rhaglen.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a’i fod wedi cael ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaed o ran datblygu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhanbarthol ac yn lleol; a
(b) Chymeradwyo’r amlinelliad bras o’r strwythurau a’r prosesau a ddefnyddir i gyflawni’r rhaglen, a rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, i’w diwygio a’u cwblhau yn ôl yr angen, unwaith y bydd Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo’r rhaglen ac y bydd y telerau a’r amodau terfynol ar gael.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/11/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/12/2022
Dogfennau Atodol: