Manylion y penderfyniad
Void Management
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update to the Committee on Void
properties and the work undertaken to bring the properties back
into use.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai adroddiad i ddarparu diweddariad ar reoli unedau gwag a chyflawniad.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai a Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethau Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl gyflwyniad a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:-
- Cartrefi Gwag
- Targedau a chostau cartrefi gwag
- Trosiant ac ôl-groniad cartrefi gwag
- Rheoli Ystadau
- Proses diwedd i ddiwedd
- Adnoddau - Staffio
- Adnoddau - gweithgareddau gwella staffio
- Adnoddau - cyllidebau
- Adnoddau - gweithgareddau gwella cyllideb
- Adnoddau - ailwampio
- Adnoddau - gweithgareddau gwella ailwampio
- Trosolwg ac Adrodd
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, cytunwyd y byddai copi o’r cyflwyniadau yn cael eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod. Hefyd rhoddodd y Cynghorydd Dolphin enghreifftiau i eiddo gwag yn ei ward a oedd wedi bod yn wag ers cyfnod hir iawn, a rhoddodd sylw ar yr angen i newid eiddo yn gynt i sicrhau refeniw parhaus i’r Cyngor.
Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Pam Banks ynghylch mater yn ei ward ac arhosiad am eiddo, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethu Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i’r Cynghorydd Banks ddarparu manylion iddi ar ôl y cyfarfod fel y gellir edrych ar y mater hwn ymhellach.
Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer os oedd yno gontractwyr mewnol ychwanegol y gellir eu defnyddio. Hefyd gofynnodd sut y gellir gwella cyfraddau ynni i’r eiddo hyn a oedd wedi’u dyrannu’n barod. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod timau eiddo gwag mewnol a oedd yn cael eu dyrannu i gyflawni mân waith. Hefyd darparodd fanylion am brosiect peilot ynghylch di-garboneiddio’r stoc dai ym Mostyn, ac ychwanegodd bod y gwaith hwn wedi’i gynnwys o fewn gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru.
Awgrymodd y Cynghorydd Dave Evans bod y Pwyllgor yn ymweld ag eiddo gwag pan mae’n dod yn wag, a hefyd eiddo gwag sydd wedi’i ailwampio’n ôl i ddefnydd er mwyn gweld safon y gwaith a gyflawnir. Hefyd cyfeiriodd at yr argyfwng costau byw a gofynnodd pa welliannau a gafodd eu gwneud i eiddo i gadw costau’n îs i denantiaid. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod yr holl foeleri, gwresogi a insiwleiddiad atig yn cael eu hasesu’n dda ar y cam gwag, ac ychwanegodd os byddai newid i bympiau gwres yr awyr yn opsiwn hyfyw i’r eiddo, yna byddai hynny yn cael ei asesu ar adeg pan mae’r eiddo’n wag hefyd.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin os oedd myfyrwyr coleg yn cael eu cyflogi i gynorthwyo i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y Cyngor wedi cysylltu gyda’r coleg ac yn hwyluso myfyrwyr sydd yn cyflawni gwaith ymarferol fel rhan o’u cwrs.
Cododd y Cynghorydd Dale Selvester bryderon ynghylch yr amser mae’n cymryd i gofrestru mesuryddion gyda chwmniau ynni, a oedd yn ychwanegu at yr oedi i ddyrannu eiddo gwag. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y tenant yn flaenorol yn gorfod cysylltu gyda’r cwmniau ynni yn uniongyrchol a oedd yn cymryd llawer iawn o amser. Bellach bydd cwmni o’r enw Energy Angels yn eu cynorthwyo gyda hyn.
Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Dale Selveseter.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r pwysau a heriau cynyddol sy’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaeth ar draws y Portffolio Tai a Chymunedau; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynigion ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau a nodwyd.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: