Manylion y penderfyniad
Regional School Effectiveness and Improvement Service (GwE) Annual Report 2021-2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive an update on the support provided
by the regional school effectiveness and improvement service, GWE
and its impact on schools.
Penderfyniadau:
Diolchodd y Cadeirydd i GwE am y gefnogaeth y maent wedi’i darparu i arweinwyr ysgolion yn ystod y Pandemig ac am eu cefnogaeth barhaus i ysgolion Sir y Fflint wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (CiG).
Esboniodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant) bod cyflwyniad wedi cael ei baratoi i ychwanegu at yr adroddiadau sydd ynghlwm wrth y rhaglen. Cyflwynodd Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) a David Edwards (Arweinydd Craidd Cynradd), a fyddai hefyd yn cynorthwyo gyda’r cyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar waith sy’n cael ei wneud mewn ysgolion ar hyn o bryd, gwybodaeth am bolisïau a chymorth adfer ar ôl y pandemig i ysgolion gan Lywodraeth Cymru (LlC).
Rhoddodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-
· Tri phrif flaenoriaeth GwE:-
ØGweithredu’r Cwricwlwm i Gymru
ØSicrhau prosesau hunanwerthuso cadarn
ØArolygiadau Estyn
· Cynradd - Cwricwlwm i Gymru
Ønodi ffactorau unigryw eu hysgol a sut mae’r rhain yn cyfrannu at y pedwar pwrpas
Øadolygu eu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiadau i gefnogi’r cwricwlwm
Øbod yn ystyriol o’r ystyriaethau allweddol e.e. elfennau statudol a gorfodol
Øadolygu modelau dylunio’r cwricwlwm
Øystyried rôl cynnydd ac addysgeg yn eu cwricwlwm
Ødechrau dylunio, cynllunio, treialu a gwerthuso pynciau newydd.
· Cynradd - Hunanwerthuso a sicrhau ansawdd
· Cynradd - Arolygiadau Estyn
Parhaodd yr Arweinydd Craidd Uwchradd gyda’r cyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r meysydd canlynol:
· Uwchradd - Cefnogaeth i’r Cwricwlwm i Gymru
Ø Mae holl ysgolion Sir y Fflint wedi gwneud defnydd eang o’r rhaglen gefnogaeth ranbarthol
Ø Mae ymgysylltiad da wedi bod â’r grwpiau cynllunio rhanbarthol / lleol.
Ø Mae’r ysgolion wedi derbyn y cynnig o fewnbwn penodol ac unigryw gan dîm GwE ar addysgu a dysgu
Ø Mae cydweithio ar gynnydd trwy glystyrau a thrwy gynghreiriau
Ø Yn nhymor yr haf, ymgymerwyd ag adroddiadau ‘Chwe Cham’ (yn canolbwyntio ar ofynion y Gweinidog Addysg i symud ymlaen tuag at y CiG) gyda phob ysgol yn dilyn trafodaethau rhwng ysgolion a’u Hymgynghorwyr Gwella Ysgolion.
· Uwchradd - hunanwerthuso a sicrhau ansawdd
· Paratoi ar gyfer arolygiadau mewn ysgolion uwchradd o dan Fframwaith newydd Estyn.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst am gadernid a mesur gwrthrychol Arolygiadau Estyn, dywedodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant), yn y gorffennol oherwydd bod Estyn yn canolbwyntio ar ganlyniadau arholiadau roedd gwaith yr oedd y disgyblion wedi’i gwblhau yn yr ystafell ddosbarth wedi dod yn ail. R?an sylfaen tystiolaeth Estyn oedd y llyfrau yr oedd y disgyblion yn gweithio ohonynt ar y pryd, a’r gwersi yr oeddent yn eu cael a oedd yn cael eu cymedroli. Esboniodd sut y byddai hyn yn gweithio mewn ysgolion. Roedd GwE yn cefnogi ysgolion ond dywedodd y byddai’n cymryd rhywfaint o amser i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.
Esboniodd Mr Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) mai’r amrywiad o fewn yr ysgol sydd fwyaf arwyddocaol ac esboniodd beth oedd GwE yn canolbwyntio arno. Rhoddodd wybodaeth am ddadansoddiad o lefel cwestiwn a fyddai’n galluogi strategaethau hyfforddiant i gael eu darparu i greu gwelliannau. Byddai’r data ar gyfer amrywiadau yn yr ysgol, y dadansoddiad o lefel cwestiwn ac arsylliadau ystafelloedd dosbarth yn gyrru cynnydd a safonau ymlaen. Teimlai bod hyn yn sicrhau atebolrwydd sy’n fwy seiliedig ar ymchwil mewn ysgolion yn hytrach na chymharu cynnydd un ysgol yn erbyn y llall, yn enwedig gan mai un elfen o berfformiad ysgol yw data.
Amlinellodd y Cynghorydd Dave Mackie ei farn am rôl Aelodau mewn Pwyllgorau Craffu a’r angen i ofyn cwestiynau yngl?n ag adroddiadau a gyflwynir i’r Pwyllgor. Cododd bryder nad oedd y cyflwyniad a ddarparwyd yn berthnasol i’r adroddiad ond yn hytrach yn canolbwyntio ar flaenoriaethau i’r dyfodol. Cododd nifer o gwestiynau am y data a ddarparwyd yn yr adroddiad a chwestiynodd yr angen am esboniadau ychwanegol i’r data.
Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod llawer iawn o ddogfennau wedi’u hatodi gyda’r adroddiad a oedd yn adlewyrchu gwaith y Gwasanaeth Gwella Ysgolion dros y 12 mis diwethaf. Darparwyd y cyflwyniad i roi sicrwydd i aelodau ynghylch sefyllfa bresennol y gwasanaeth yn y flwyddyn academaidd newydd, a’r ffocws wrth symud ymlaen i adeiladu ar y blaenoriaethau ar gyfer gwelliant a adlewyrchir yn yr adroddiadau. Cynhaliwyd gwerthusiad ar lefel GwE, yr Awdurdod Lleol, trwy’r Bwrdd Rheoli a’r Cyd-bwyllgor i nodi cyfeiriad y gwasanaeth wrth fynd ymlaen. Roedd GwE yn wasanaeth a gomisiynir ar y cyd rhwng y chwe awdurdod lleol yng Nghymru ac roedd yn deall sylwadau’r Cynghorydd Mackie ynghylch gwerth am arian a dywedodd y dylai Aelodau fod yn sicr, mewn cyfuniad â’r adroddiad nesaf ar Hunan Werthuso, bod y Cyngor yn cael gwerth am arian. Mae cynnydd a pherfformiad cryf ysgolion yn cael ei weld yn y safonau a gyflawnir. Mae’n dangos y gefnogaeth eang y mae ysgolion a phenaethiaid yn ei chael gan GwE trwy’r ymgynghorwyr gwella ysgolion, a lefel sylweddol yr ymgysylltiad â’r dysgu proffesiynol a ddarperir gan GwE i ysgolion Sir y Fflint.
Cytunodd y Prif Swyddog fwydo sylwadau’r Cynghorydd Mackie yngl?n â data cymharu yn ôl i’r Bwrdd Rheoli. Ond ychwanegodd bod yn rhaid i’r model gwasanaeth newid oherwydd bod sefyllfa ysgolion wedi newid wrth i addysg statudol gael ei gohirio. Daeth arolygiadau i ben a gwnaeth LlC nifer o newidiadau gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles staff a disgyblion. Dros y flwyddyn ddiwethaf bu’r ffocws ar addysg ond o fewn cyfyngiadau’r Pandemig ac amlinellodd oblygiadau hynny. Roedd yr adroddiadau yn ceisio amlinellu dibenion craidd a sefyllfaoedd mewn ysgolion, ond roedd y ffocws bellach ar ddychwelyd i’r swyddogaeth gwella ysgolion, hunanwerthuso o ansawdd a safon addysg i ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth. Roedd ysgolion Sir y Fflint yn ymateb yn dda i’r ymyraethau ansawdd hynny a oedd yn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu canlyniadau gorau posibl. Ble roedd pryderon, amlinellodd bod dulliau manwl mewn lle i ddarparu ymyraethau ychwanegol i sicrhau eu bod yn effeithiol.
Ymatebodd y Cynghorydd Mackie trwy ddweud mai rôl Aelodau oedd bod yn gyfaill beirniadol a darparu her. Teimlai mai’r elfen feirniadol oedd nad oedd GwE wedi darparu’r amcanion yr oeddent yn chwilio amdanynt, y llwybr y byddent yn ei ddilyn i gyflawni’r amcanion hynny a chyflawni’r gwelliant a nodwyd. Teimlai y dylai’r wybodaeth hon gael ei darparu er mwyn i Aelodau ymgymryd â gwaith craffu priodol.
Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease bod rhoi’r gorau i ganolbwyntio ar werthuso perfformiad mewn arholiadau a chanolbwyntio ar berfformiad disgyblion yn lle yn apelio’n fawr ato, ond roedd heriau ynghlwm wrth hynny hefyd o ran gwerthuso cynnydd. Roedd yn cytuno â sylwadau’r Cynghorydd Mackie a dywedodd bod gallu gwerthuso a rhoi cynnig ar graffu’r adroddiadau mewn modd gwerthfawr yn anodd a dywedodd bod angen i’r data fod â mwy o ffocws.
Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn gweld GwE fel cyfaill beirniadol cefnogol gyda disgwyliadau uchel o’n hysgolion. Roedd yn deall bod y Cwricwlwm i Gymru yn ystyried gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion, LlC, GwE a darparwyr gwasanaeth â diddordeb. Roedd hi hefyd yn deall bod LlC yn gweithio i ddarparu adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm hwn ac yn gwerthfawrogi’r cyflwyniad. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y gwaith a oedd wedi digwydd, ond roedd y cyflwyniad yn amlinellu’r hyn a fyddai’n digwydd wrth symud ymlaen. Darparodd GwE gefnogaeth werthfawr i ysgolion. Nid oedd pwynt terfyn addysg plentyn yn mynd i gael ei fesur ar sail canlyniadau arholiadau, ac roedd cymaint o bethau eraill mewn ysgolion yr oedd angen arsyllu arnynt.
Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod y dirwedd yn newid o atebolrwydd ffocws i edrych ar yr holl ddarpariaeth addysg ac mae eii rôl hi oedd craffu GwE. Dywedodd bod yr amcanion o fewn yr adroddiad ar gyfer y system gyfan ochr yn ochr â'r 5 Awdurdod Lleol arall er mwyn hybu safonau yn genedlaethol ledled Cymru. Roedd y gweithgarwch gweithredol manwl yn digwydd fesul ysgol, ac roedd yn croesawu cefnogaeth GwE i alluogi ymchwil ar gyfer pob ysgol unigol er mwyn sicrhau bod anghysonderau yn cael eu datrys, bod safonau yn codi a bod arfer orau yn cael ei rhannu ar draws pob ardal. Byddai siarad gyda dysgwyr, edrych ar dystiolaeth, datblygu sgiliau a lles yn codi safonau i bob dysgwr ledled Cymru . Byddai’r weledigaeth graidd, pwrpas, fframwaith atebolrwydd, cefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn symud hyn ymlaen.
Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod bod llwyth gwaith yr Aelodau wedi bod yn sylweddol oherwydd nifer a maint yr adroddiadau, gan fod GwE yn awyddus i rannu lefel y gwaith a thrawsnewid yn dilyn y pandemig ynghyd â gwybodaeth am weithredu’r Cwricwlwm newydd. Darparodd wybodaeth am y Bwrdd Rheoli a Chydbwyllgor GwE gan ddweud bod yr adroddiadau hyn wedi cael eu cyflwyno i’r pwyllgorau hyn. Byddai’n mynd â’r adborth ynghylch maint, graddfa a ffocws yr adroddiadau gyda hi.
Cadarnhaodd yr Hwylusydd ei bod wedi nodi’r cwestiynau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mackie ac y byddai’n eu trin fel camau gweithredu yn dilyn y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at sylwadau’r Prif Swyddog a dywedodd pe bai adroddiadau gyda mwy o ffocws yn cael eu cynnwys yn yr argymhellion a phe bai angen mwy o wybodaeth, byddai modd ymdrin â hynny trwy gynnal gweithdy a fyddai’n galluogi swyddogion i friffio aelodau.
Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol gan GwE, gan nodi effaith gadarnhaol y gwasanaeth rhanbarthol o ran cefnogi ysgolion Sir y Fflint trwy’r pandemig, cynnal ffocws ar ysgolion effeithiol a llwyddiannus a chefnogi ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 10/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol:
- Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE PDF 104 KB
- Document 1 - GwE Annual Report 2021-2022 PDF 565 KB
- Appendix 1 - GwE Support during the COVID-19 pandemic PDF 327 KB
- Appendix 2 - Impact of GwE's work March 2022 PDF 552 KB
- Appendix 3 - Progress Report on Reform Journey - Autumn Term 2021 PDF 973 KB
- Appendix 4 - Regional Strategy - Renew and Reform Strategy PDF 773 KB
- Appendix 5 - Training Data Report Flintshire PDF 472 KB
- Appendix 6 - GwE Regional Business Plan 2022-2023 PDF 458 KB