Manylion y penderfyniad

Asset Management Plan 2022 - 2027

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Asset Management Plan 2022 - 2027 for review.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) y Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer 2022-2027 sy’n disodli’r Cynllun blaenorol ar gyfer 2019-2026.   Roedd y ddogfen ddiweddaraf yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru (LlC) ar leihau carbon a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal â Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor a fabwysiadwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash am waredu ffermydd blaenorol ac unrhyw newidiadau a wnaed i’r polisi.   Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol wybod y byddai modd darparu gwybodaeth benodol am werthiant ffermydd ar wahân ac eglurodd bod y polisi wedi cymryd elfennau amgylcheddol amrywiol i ystyriaeth, ac roedd yn debyg y byddai rhagor o newidiadau i ddeddfwriaeth LlC.

 

Cynghorodd y Rheolwr Asedau, hyd eithaf ei gwybodaeth, bod ffermydd Cyngor a werthwyd bellach yn gweithredu dan berchnogaeth newydd.   Eglurodd y cymal contractio lle byddai caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd gwahanol yn golygu bod canran o’r gwerth yn cael ei ddychwelyd i’r Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am newidiadau polisi dros y blynyddoedd gan gynnwys annog tenantiaid ifanc i ymgymryd â ffermydd a daliadau, gan symud at ffocws ar hawliau olyniaeth a thenantiaethau busnes fferm, ac roedd rhai o’r rhain wedi arwain at brynu’r ffermydd.   Dywedodd y gellid cynnwys adolygu’r polisi gwaredu ffermydd ar raglen ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge wybodaeth am y tabl eiddo gweithredol a rhoddwyd gwybod iddo fod rhagor o fanylion ar gael ar gais gan y system rheoli asedau.  Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybod y byddai Aelodau’n derbyn dolen i fanylion cyhoeddus am berchnogaeth rydd-ddaliadol y Cyngor unwaith y byddant ar gael.   Byddai ymholiad am gyfraniadau tuag at fuddsoddiad yn Theatr Clwyd yn cael ei drafod fel rhan o’r eitem yn nes ymlaen yn y rhaglen.

 

Yn dilyn sylwadau’r Cynghorydd Attridge ar ailddatblygu campws Neuadd y Sir, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y dylid adlewyrchu’r lefelau disgwyliedig mewn perthynas â gweithio o gartref er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol yn y Cynllun.   Rhoddodd y Swyddogion wybod, er nad oedd yr amserlenni wedi’u cadarnhau eto, bod ystod o ystyriaethau ynghlwm â’r angen i nodi cyfleusterau democrataidd allweddol ac arbedion posibl drwy ardrethi annomestig.   Yn ystod trafodaeth ar y mater, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am Gyfraniad Aelodau ac eglurodd y Prif Weithredwr ddatblygiad y strategaeth gweithio hyblyg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol na fyddai’r tâl gwasanaeth ar gyfer campws 3-16 Mynydd Isa’n fwy na’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet a Throsolwg a Chraffu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson am sail y strategaeth gostwng carbon a adlewyrchwyd yn y Cynllun.   Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod yr adroddiad hwn yn un lefel uchel sy’n amlinellu’r cyd-destun strategol ar gyfer cyfeirio at strategaethau a pholisïau amrywiol.  Cadarnhaodd bod Rheolwr Rhaglen Chynllun Gweithredu Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon y Cyngor (Alex Ellis) wedi’i ymgynghori ar y Cynllun ac yn gallu ymateb i gwestiynau penodol ar gais.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sam Swash, siaradodd y Rheolwr Corfforaethol a’r Rheolwr Asedau am y categorïau gwahanol o asedau yn y tabl o eiddo gweithredol.

 

Roedd y Rheolwr Corfforaethol yn cydnabod pwynt y Cadeirydd ar nifer yr ysgolion a ystyrir eu bod mewn cyflwr gwael, fodd bynnag, mae ystâd ysgolion y Cyngor yn cymharu’n ffafriol gydag awdurdodau eraill yng Nghymru.  Yn ogystal â hynny, roedd ffigurau’r gwaith cynnal a chadw sy’n aros i gael ei wneud mewn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol drwy fuddsoddiad gan y Cyngor a LlC.   Er y croesawyd cyllid LlC ar ddiwedd y flwyddyn sy’n cyfrannu’n sylweddol at gyflawniadau’r tîm i leihau’r ôl-groniad gwaith, roedd yr ansicrwydd mewn perthynas â’r cyllid hwnnw wedi cael effaith ar gapasiti i reoli’r sefyllfa.

 

Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i fynd i’r afael â’r anghysondeb rhwng y geiriad a’r siart sy’n dangos asedau a werthwyd, dan adran 3 o’r Cynllun.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi Cynllun Rheoli Asedau 2022-2027, er mwyn ei fabwysiadu fel y brif ddogfen ar gyfer rheoli eiddo corfforaethol ac asedau adnoddau tir y Cyngor.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2022

Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: