Manylion y penderfyniad

Council Plan 2022-23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To adopt the Council Plan 2022/23 Part 1 and to approve Part 2.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Cynllun Cyngor drafft ar gyfer 2022/23, oedd wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer. Roedd fframwaith y Cynllun yn cynnwys chwe thema oedd yn cyd-fynd â’r Amcanion Lles ac a oedd yn parhau i gymryd agwedd hirdymor at adferiad, uchelgais a gwaith dros y flwyddyn nesaf. Wedi i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ymgynghori arno, roedd Rhan 1 yn adlewyrchu blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer 2022/23 ac roedd yn cynnwys eitem ychwanegol ar Wasanaethau Iechyd Meddwl.  Byddai’r Cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi ar y wefan wedi i’r Cyngor ei fabwysiadu.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod Rhan 1 yn nodi uchelgeisiau lefel uchel ar gyfer 2022/23 a bod Rhan 2 yn nodi camau gweithredu, tasgau a mesurau cefnogol gyda manylion am sut y byddai cyflawniadau’n cael eu mesur a’u gwerthuso. Roedd Rhan 3 yn dangos sut oedd themâu’n cyd-fynd â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu, ble byddai cynnydd yn cael ei fonitro.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod gosod mwyafrif y cerrig milltir ar gyfer mis Mawrth 2023 yn ei gwneud yn anodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fonitro cynnydd rheolaidd. Wedi trafod hyn yn flaenorol, roedd swyddogion eisoes wedi cytuno i adolygu cerrig milltir cyn cyhoeddi’r Cynllun. Tynnodd sylw at bwysigrwydd Cynllun y Cyngor yng nghyd-destun cynllunio ariannol a’r angen i sicrhau y gellir mesur eitemau ychwanegol. O ran y flaenoriaeth ‘amgylchedd lleol diogel, glân ac wedi’u cysylltu’n dda’, gofynnodd a fyddai gwaith gyda’r ddwy dref a nodwyd yng Nghynllun eleni hefyd yn dod â budd i drefi eraill drwy gydol y cyfnod. 

 

Wrth gynnig mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2022-23, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i swyddogion am eu holl waith. Er mwyn ymdrin â sylwadau’r Cynghorydd Jones, awgrymodd y dylid gofyn i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu’r cerrig milltir ar gyfer eu meysydd penodol ar y cyd ag unrhyw argymhellion gan y Prif Swyddogion. Ar ran y gr?p Llafur, diolchodd i’r staff am eu hymroddiad a’u cryfder wrth fodloni heriau yn ystod y cyfnod hwn o Gynllun y Cyngor.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at ddiffiniad yr is-flaenoriaeth Tlodi Tanwydd o aelwydydd â chostau tanwydd uwch na’r cyfartaledd a gofynnodd a oedd hyn yn cynnwys pob aelwyd yn y sefyllfa hon neu ddim ond y rhai sy’n gysylltiedig â thai fforddiadwy a hygyrch. O ran risgiau cysylltiedig, holodd am y gostyngiad gwaelodlin mewn risgiau o gofio’r tebygrwydd y byddai mwy o aelwydydd yn cael eu heffeithio a gofynnodd sut y byddai ffrydiau ariannu yn cael eu blaenoriaethu oherwydd nad oedd cyllid ar gael fel y bu i ddarparu prosiectau tlodi tanwydd. O ran y flaenoriaeth Sector Rhentu Preifat i godi safonau mewn rheoli a chyflwr y tai, gofynnodd am sicrwydd na fyddai darpariaeth adnoddau’n dyblygu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Rentu Doeth Cymru.

 

O ran Rhan 1 Cynllun y Cyngor, cynigiodd y Cynghorydd David Coggins Cogan y dylid newid y diffiniad o Dlodi Tanwydd yn y ddogfen fel a ganlyn: ‘Tlodi Tanwydd: Aelwydydd sy’n dioddef tlodi oherwydd eu costau tanwydd’ i adlewyrchu ystod ehangach y rhai sy’n cael eu heffeithio gan gynnydd parhaus mewn prisiau ac nid dim ond y rhai â chostau ‘uwch na’r cyfartaledd’. 

 

Wedi i’r Cynghorydd Andrew Parkhurst ei eilio, derbyniwyd y diwygiad gan y Cynghorwyr Roberts a Mullin.

 

Er bod y Cynghorydd Richard Jones yn cydnabod y bwriad, holodd a oedd yn bosibl newid geiriau'r diffiniad oedd wedi ei osod yn genedlaethol. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai swyddogion yn ystyried ble y gellid ymgorffori’r newid yng Nghynllun y Cyngor.

 

Wrth gefnogi, cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at aelwydydd oedd wedi’u heffeithio gan gynnydd mewn prisiau olew.

 

Wrth ymateb i sylwadau blaenorol, atgoffodd y Cynghorydd Paul Cunningham Aelodau bod cynnydd Cynllun y Cyngor yn destun craffu manwl rheolaidd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease fod angen i gerrig milltir fod yn realistig a chyraeddadwy.

 

Gan fod yr argymhelliad wedi’i gynnig a’i eilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2022-23, yn amodol ar (i) adolygu’r dyddiadau targed ar gyfer cyflawni’r camau gweithredu gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac (ii) ailddiffinio Tlodi Tanwydd fel nad yw’n gyfyngedig i’r rhai sydd ar incwm isel (os yw’n bosibl).

Awdur yr adroddiad: Jay Davies

Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2022

Dyddiad y penderfyniad: 26/07/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/07/2022 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: