Manylion y penderfyniad
Flintshire Young Carers Support Service
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the latest budget position as agreed at the Committee meeting on 21 January 2021.
Penderfyniadau:
Bu i’r Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu atgoffa’r Pwyllgor bod y Gwasanaeth Pobl Ifanc wedi symud i GOGDdC ym mis Gorffennaf 2020 ac, fel y gofynnwyd gan y Pwyllgor, roedd yr adroddiad hwn yn drosolwg o’r canlyniadau cadarnhaol a oedd wedi’u cyflawni i ofalwyr ifanc yn Sir y Fflint.
Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu - Plant a Gweithlu drosolwg o’r prif lwyddiannau fel y rhestrir yn 1.10 o’r adroddiad ers i’r Gwasanaeth fod yn weithredol.
Rhoddodd Alice Thelwell - Prosiect Gofalwyr Ifanc wybod i’r Pwyllgor am rai o’r uchafbwyntiau dros y 12 mis diwethaf:-
· Lansio’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr ym mis Mawrth 2021
· Digwyddiadau a gynhaliwyd
· Digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio
· Creu Llyfryn Lles
· Sesiynau Cwnsela
· Grantiau ar gyfer gofal seibiant
Dywedodd y Prif Weithredwr - GOGDdC, gyda chymorth partneriaethau, mae Gofalwyr Ifanc wedi symud yn llyfn i Wasanaethau Oedolion. Bu iddi ddiolch i’r Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu a’r tîm am eu cymorth a chyngor parhaus ar gyllid a oedd wedi’u helpu i gynnig gwasanaethau gwahanol. Roeddent yn gobeithio cynnal G?yl Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru eleni ynghyd â theithiau eraill gan fod pethau wedi gorfod cael eu gohirio’r llynedd oherwydd y pandemig.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei redeg yn dda y mae galw mawr amdano sy’n cael ei ddarparu gan bobl frwdfrydig ond roedd yn cwestiynu'r gyllideb a oedd wedi’i adrodd yn yr adroddiad o’i chymharu â’r galw. Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr - GOGDdC mai hwn oedd y Contract a oedd ar waith a’u bod nhw wedi derbyn arian ychwanegol yn y 12 mis diwethaf a oedd wedi galluogi iddynt benodi aelod staff dros dro yr oedd hi’n hyderus y byddai’n awr yn ddiogel oherwydd y cymorth a gafwyd gan yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu i gael mwy o gyllid ac roedd yn gobeithio penodi aelod arall o staff. Roeddent wedi cael problemau dros yr haf gyda materion staffio nad oedd modd eu hosgoi ond roeddent wedi cael cymorth gan y Gwasanaethau Plant i’w helpu drwyddynt. Dywedodd os yw ‘Gweithredu dros Blant’ yn llwyddiannus gyda’r Tendr Teulu yn Gyntaf byddai hyn yn galluogi i GOGDdC gael swydd ychwanegol a fyddai’n gam cadarnhaol wrth symud ymlaen.
Cytunodd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu ei fod yn gwestiwn teg a godwyd gan y Cynghorydd Mackie a bod y gwasanaeth wedi’i gomisiynu ar y cyllid yr oedd ganddynt. Dywedodd eu bod yn ddioddefwyr o’u llwyddiant eu hunain oherwydd y gwasanaeth ardderchog yr oeddent yn ei ddarparu.
Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn adroddiad ardderchog a bu iddynt ddiolch i’r holl staff a oedd yn rhan o redeg y gwasanaeth.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau yn cefnogi cynnydd Gwasanaeth Cefnogi Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint a datblygiad y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc newydd.
Awdur yr adroddiad: Craig Macleod
Dyddiad cyhoeddi: 31/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 20/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: