Manylion y penderfyniad
North Wales Population Needs Assessment and Market Stability Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide an overview of the North Wales
Population Needs Assessment 2022 which has been produced as a
requirement of the Social Services and Well-being (Wales) Act
2014.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i ddarparu trosolwg o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 a baratowyd fel un o ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn ofyniad statudol ac roedd yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ac anghenion cymorth gofalwyr ledled Gogledd Cymru. Arweiniwyd y gwaith o baratoi’r adroddiad gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru, ar y cyd â gwybodaeth gan chwe Chyngor y Gogledd a'r Bwrdd Iechyd. Rhaid i'r adroddiad gael ei gymeradwyo gan yr holl bartneriaid cyn cael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2022.
Hefyd ym Mehefin 2022 rhaid cyhoeddi adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol a oedd yn dilyn o'r Asesiad Anghenion Poblogaeth ac yn darparu asesiad o ba mor ddigonol yw’r gofal a’r gefnogaeth wrth ddiwallu anghenion a galw am ofal cymdeithasol. Gyda'i gilydd, dylai'r ddwy ddogfen helpu’r rhai sy’n comisiynu gofal a chymorth i ddeall yn llawn y galw a'r ddarpariaeth ar hyn o bryd a’r hyn a ragwelir. Byddai cam nesaf y prosiect yn cynnwys defnyddio’r asesiad o anghenion Poblogaeth i ddatblygu cynllun ardal ar gyfer y rhanbarth a baratoir ac a gyhoeddir yn 2023.
Wrth gynnig ac eilio’r argymhellion, siaradodd y Cynghorydd Christine Jones a'r Cynghorydd Hilary McGuill i gefnogi'r adroddiad cynhwysfawr a diolchodd i Emma Murphy a Katrina Shankar am eu gwaith yn casglu’r wybodaeth at ei gilydd.
Talodd y Cynghorydd Chris Bithell deyrnged i'r swyddogion oedd wedi cyfrannu at yr adroddiad gan wneud sylw am y nifer o ymatebion a gafwyd gan drigolion, staff a sefydliadau partner Sir y Fflint a oedd yn galonogol. Gwnaeth sylwadau hefyd ar y tueddiadau o ran y boblogaeth yn y dyfodol yr oedd yn teimlo y byddai'n heriol a'r goblygiadau ar gyfer cyllid yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i'r Aelodau am y sylwadau gan ddweud y byddai'n trosglwyddo'r diolch gan Aelodau i'r swyddogion. Cytunodd â phryderon y Cynghorydd Bithell ynghylch poblogaeth sy'n heneiddio ac eglurodd fod dogfennau fel yr un a gyflwynwyd yn caniatáu i'r Cyngor baratoi ar gyfer datblygu tai gofal ychwanegol a darpariaeth gofal mewnol i bobl h?n.
Ar ôl i’r argymhellion gael eu cynnig a’u heilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi; a
(b) Bod y broses ar gyfer cymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Emma Murphy
Dyddiad cyhoeddi: 09/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: