Manylion y penderfyniad
Draft Statement of Accounts 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the draft Statement of Accounts 2021/22 for Members’ information only at this stage.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Strategol Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2021/22 (eto i’w harchwilio) er gwybodaeth yn unig am y tro. Roedd y rhain yn cynnwys cyfrifon y Gr?p a’i is-gwmniau sydd mewn perchnogaeth lwyr, ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel y’i adolygwyd yn y cyfarfod blaenorol. Unwaith eto byddai cyfnod ymgynghori agored yn ystod yr haf ar gyfer yr Aelodau er mwyn iddynt allu codi unrhyw agwedd ar y cyfrifon gyda swyddogion cyn i’r Pwyllgor dderbyn y fersiwn archwiliedig terfynol i’w gymeradwyo.
Cafwyd cyflwyniad ar y pryd ar y meysydd canlynol:
· Pwrpas y chefndir y Cyfrifon
· Cynnwys a Throsolwg
· Cyfrifoldeb am y cyfrifon
· Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb
· Newidiadau i Ddatganiad Cyfrifon 2021/2
· Materion ac Effeithiau Allweddol
· COVID-19 – Cyllid Grant Argyfwng
· Penawdau – Cronfa'r Cyngor (Refeniw), Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Symudiadau Arwyddocaol, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT)
· Gr?p Llywodraethu Cyfrifon
· Amserlen a’r Camau Nesaf
Cadarnhawyd bod y cyfrifon drafft wedi’u cwblhau a’u cyflwyno o fewn y terfyn amser a oedd wedi’i ymestyn gan Lywodraeth Cymru mewn cydnabyddiaeth o effeithiau’r pandemig. Roedd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r cyfrifon archwiliedig terfynol wedi’i ymestyn tan 30 Tachwedd 2022.
Tynnodd Mike Whiteley sylw at y risg posibl cysylltiedig â gallu Archwilio Cymru i gwrdd â therfyn amser y Pwyllgor i gymeradwyo’r cyfrifon terfynol yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2022. Yng ngoleuni’r fframwaith estynedig a bennodd Llywodraeth Cymru a’r canllaw ar brisio asedau y disgwylir amdano o hyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) gofynnodd am farn y Pwyllgor ynghylch cyflwyno’r cyfrifon terfynol er cymeradwyaeth yng nghyfarfod mis Tachwedd neu bod yn dyddiad hwnnw’n cael ei ddwyn ymlaen er mwyn galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gymeradwyo’r cofnodion o fewn y terfyn amser diwygiedig.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Banks am gyfraniadau ariannol i Theatr Clwyd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y rhain yn ffurfio rhan o elfennau Cyllido Canolog a Chorfforaethol Monitro’r Gyllideb Refeniw. Ar ôl cael eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar drefniadau adrodd sefydliadau partner allanol, cytunwyd y byddai’r swyddogion yn adolygu geiriad y cyfrifon terfynol i wahaniaethu’n glir rhwng y trefniadau ar gyfer Theatr Clwyd yn hytrach na NEW Homes a Newydd sy’n is-gwmnïau mewn meddiannaeth lwyr i’r Cyngor. Cafwyd awgrym gan y Cynghorydd Banks y gellid rhoi eglurhad byr o dan yr adran ar Gwmnïau Cysylltiol o fewn y ddogfen.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar y cynnydd mewn cronfeydd heb eu clustnodi, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y cefndir ar lefel sylfaenol y cronfeydd wrth gefn a gynhelir i ddiogelu yn erbyn amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld, yn ychwanegol at y cronfeydd sydd ar hyn o bryd yn uwch na’r arfer oherwydd bod LlC yn hwyr yn rhoi gwybodaeth am grantiau. Siaradodd am bwysigrwydd diogelu cronfeydd wrth gefn i ddelio ag effeithiau anhysbys dyfarniadau cyflog a chynnydd chwyddiannol. Wrth gymharu lefelau’r cronfeydd â chynghorau eraill, cyfeiriodd at adolygiad Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol sy’n cynnwys cymhariaeth o lefelau cronfeydd ar draws Cymru.
Wrth gyfeirio at gymhlethdod y Grant Caledi a rôl ranbarthol y Cyngor yn ystod y pandemig, anogodd y Cynghorydd Paul Johnson yr Aelodau i ystyried y ddogfen yn fanwl gan nodi maint heriau ariannol y dyfodol.
Gan gydnabod y rheoliadau cymhleth sy’n rhan o gynhyrchu’r cyfrifon, cododd Allan Rainford nifer o gwestiynau er mwyn cael eglurder ar y cronfeydd a glustnodwyd a’r trefniadau ar wahân ar gyfer cymeradwy cyfrifon y Cyngor Sir a Chronfa Bensiynau Clwyd. Nodwyd bod y cynnydd yn y cronfeydd yn ystod y pandemig yn 2020/21 wedi’i ddwyn ymlaen i’w ddefnyddio yn 2021/22 i gwblhau cynlluniau o fewn y Rhaglen Gyfalaf, heb unrhyw effaith ar y blynyddoedd i ddod wedi’i ragweld. Mae ymagwedd ddarbodus hirsefydlog y Cyngor o gynnal isafswm o 3% o gronfeydd wrth gefn yn golygu bod unrhyw beth dros hynny’n cael ei ystyried ar gyfer buddsoddiadau stoc yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhawyd bod ffioedd archwilio allanol ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol yn ymwneud â gwaith perfformiad gan Archwilio Cymru a rhoddwyd diweddariad ar yr ól-ddyledion rhent presennol sydd yn uwch na chyfartaledd Cymru. O ran y tanwariant diwedd y flwyddyn ar refeniw Cronfa’r Cyngor, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oes unrhyw faterion gweithredol na pherfformiad arwyddocaol wedi cyfrannu ar y sefyllfa hon, fel y nodwyd yn y cyflwyniad. O ran atebolrwydd posibl yn y dyfodol, er enghraifft yswiriant, siaradodd am y gwahaniaeth rhwng cronfeydd wrth gefn ar gyfer costau nad oes modd eu rhagweld a chronfeydd sy’n cael eu neilltuo am resymau penodol fel cronfeydd wedi’u clustnodi.
Gofynnodd y Parchedig Brian Harvey a oes unrhyw waith yn cael ei wneud i asesu effeithlonrwydd y grantiau argyfwng allweddol a dderbyniwyd drwy’r Gronfa Galedi i gynorthwyo â chamau ymateb i, ac adfer ar ôl y pandemig. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y cyllid argyfwng wedi effeithio’n arwyddocaol ar y sefyllfa ariannol derfynol o ran hawlio am bwysau costau ychwanegol o ganlyniad i’r ymateb i’r pandemig, yn cynnwys ad-daliadau ôl weithredol a cholled incwm ar draws y Cyngor. Siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am rôl y Pwyllgor Adfer mewn goruchwylio cam adfer y pandemig. Cytunodd y byddai’n rhannu gwybodaeth am y gefnogaeth a dargedwyd at fusnesau a chymunedau lleol yn ystod y cyfnod.
O ran y strategaeth i gynyddu cronfeydd ysgolion, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at waith sydd ar y gweill i ddeall cynlluniau gwariant ysgolion dros y tymor canolig. Tra bod hyn yn rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, caiff diweddariad blynyddol ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bydd yn cael ei roi gerbron y cyfarfod nesaf.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Bernie Attridge, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod prisio asedau yn fater cenedlaethol a bod trafodaethau ar y gweill gydag Archwilio Cymru i ystyried yr ymdriniaeth orau ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd hefyd bod y tanwariant diwedd y flwyddyn wedi’i adrodd yn bennaf drwy Fonitro’r Gyllideb Refeniw yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac eithrio rhai grantiau yr cafwyd gwybod amdanynt yn hwyr. Atgoffodd y Pwyllgor bod y sefyllfa gadarnhaol yn bennaf o ganlyniad i grantiau unwaith yn unig a dderbyniwyd.
Pan holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst ynghylch Cronfa Bensiynau Clwyd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad ar y safonau adrodd ar wahân a ragnodir yng nghyfrifon y Cyngor. Cyfeiriodd hefyd at y cylch prisio Actiwaraidd gyda chanlyniad yr adolygiad diweddaraf i fod ar gael yn yr hydref.
Soniodd y Cynghorydd Parkhurst am nifer cynyddol yr uwch swyddogion sy’n cael tâl cydnabyddiaeth o dros £60,000 a chafodd wybod nad yw’r trothwy hwn wedi newid ers peth amser a bod hynny wedi arwain at gynnydd. Cafodd hefyd wybodaeth am y broses gynnal sy’n ymwneud â swyddogion yn cymryd dyletswyddau ychwanegol
Yn ystod y drafodaeth mynegodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor eu diolch i’r timau sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r cyfrifon ac i’r Gr?p Llywodraethu Cyfrifon am eu cyfraniadau pwysig. Cytunwyd y byddai dyddiad cyfarfod mis Tachwedd yn cael ei symud ymlaen er mwyn galluogi cymeradwyo a llofnodi’r cyfrifon o fewn y terfyn amser.
Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Datganiad Cyfrifon drafft 2021/22 (sy’n cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol); a
(b) Bod yr Aelodau’n nodi’r cyfle i drafod unrhyw agwedd ar y Datganiad Cyfrifon Drafft gyda swyddogion neu Archwilio Cymru o fis Gorffennaf i fis Awst, cyn i’r fersiwn archwiliedig terfynol ddod yn ôl at y Pwyllgor i’w gymeradwyo’n derfynol ym mis Tachwedd 2022.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 27/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/07/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: