Manylion y penderfyniad
Budget 2023/24 Medium Term Financial Strategy (MTFS)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the first estimate for the budget
requirement for 2023/24 and the strategy for funding the
requirement.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth ac Yswiriant) adroddiad ar y cam cyntaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gofyniad y gyllideb ar gyfer 2023/24. Mae’r adroddiad yn nodi’r rhagolygon diwygiedig cyn i bwysau o ran cost a chynigion effeithlonrwydd gael eu hadolygu gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a gweithdai Aelodau yn ystod yr Hydref.
Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £16.503 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2023/24, a oedd yn eithrio effaith canlyniad yr ymarfer modelu tâl i’w gyflawni yn 2022/23. Er bod ffigyrau ariannu dangosol ar gyfer 2023/24 a 2024/25 wedi cael eu darparu fel rhan o Setliad Llywodraeth Leol 2022/23, roedd y rhain ar lefel llawer is na’r ddwy flynedd flaenorol a byddai’n cynyddu’r symiau i’w diwallu gan ffynonellau eraill. Roedd heriau sylweddol yn y rhagolygon economaidd, gyda’r amcangyfrifon chwyddiant ar ynni a thanwydd wedi’u hamlygu fel risgiau allweddol sy’n debygol o gynyddu’r rhagolwg. Roedd pwysau eraill o ran cost mewn perthynas â newid mewn galw gwasanaeth, yn bennaf o fewn Addysg ac Ieuenctid a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Roedd risg pellach yn parhau o ran canlyniad y dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer 2022/23 lle byddai unrhyw gynnydd uwchben yr ymgodiad o 3.5% a gyllidebwyd, yn golygu defnyddio cronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn, a byddai hefyd yn ychwanegu pwysau ychwanegol i’r rhagolwg ar gyfer 2023/24.
Cafodd y pwysau o ran cost eu categoreiddio yn adran 1.04 yr adroddiad a hysbyswyd yr Aelodau fod y ffigyrau yn debygol o newid dros yr Haf wrth i ragor o wybodaeth gael ei dderbyn ac wrth i adolygiadau barhau.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn ar gyflwyno’r rhagolwg cyntaf ar gyfer y gofyniad cyllidebol ar gyfer 2023/24. Dywedodd fod ansefydlogrwydd y sefyllfa economaidd bresennol yn creu fwy o heriau o ran cynllunio ariannol a bod swyddogion yn parhau i weithio drwy’r manylion i fireinio’r rhagolygon.
Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am y risgiau sylweddol ar effaith y cynnydd mewn chwyddiant ac ynni, lle nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth. Wrth amlygu’r angen i ystyried effaith y penderfyniadau ar y blynyddoedd i ddod, ailadroddodd egwyddorion craidd o wneud penderfyniadau gan sicrhau fod y Cyngor yn parhau i fodloni ei ddyletswyddau statudol a chynnal ei safonau ansawdd.
Fel un o’r prif risgiau, cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at yr effeithiau heb ei ariannu posibl o ddyfarniadau cyflog a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer athrawon a staff nad ydynt yn athrawon yn 2023/24. Siaradodd am yr heriau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r sir lle'r oedd y Cyngor yn gweithio i adsefydlu ei hun fel darparwr gofal uniongyrchol ac archwilio dewisiadau rhanbarthol.
Wrth godi nifer o gwestiynau, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson nad oedd yr holl bwysau yn cynnwys ystod o amrywiadau. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol, wrth i waith barhau, byddai diweddariad ar yr holl amrywiadau yn cael ei rannu yn y gweithdy ym mis Medi. Wrth ateb cwestiwn o ran swydd newydd yn yr Adran Gorfodi Gwasanaethau Stryd a ddangoswyd yn yr atodiad yn adroddiad y Cabinet, cadarnhawyd fod hyn yn sgil swydd newydd a gymeradwywyd fel rhan o’r gyllideb yn 2022/23 a oedd â chyfyngiad amser.
Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Ibbotson am ddiffyg pwysau ariannol tymor canolig a ragwelwyd ar leihad carbon, eglurodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn natblygiad Rhaglen Gyfalaf lle'r oedd gwaith yn mynd rhagddo, yn ogystal â’r Cynllun Rheoli Asedau a oedd i fod i gael ei ystyried ym Medi.
Wrth grynhoi’r pwysau, ystyriodd y Cadeirydd y pwysau penderfyniad cenedlaethol, gofynion cyllido cenedlaethol a’r penderfyniadau strategol fel y risgiau allweddol gan eu bod yn gyffredinol tu allan i reolaeth y Cyngor. Awgrymodd y dylid pwysleisio i Lywodraeth Cymru (LlC) na ddylid disgwyl i gynghorau gynyddu Treth y Cyngor i fynd i’r afael â’r pwysau o ran penderfyniadau cenedlaethol.
Pan ofynnwyd am broffwydoliaeth ar gyfer amrywiadau isel/canolig/uchel i’r rhagolwg, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd sicrwydd ar hyn o bryd yn sgil ansefydlogrwydd ac y byddai canran bychan o gynnydd yn effeithio’n sylweddol ar sefyllfa’r gyllideb. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol a rhoddodd sicrwydd y byddai mwy o fanylion ar holl bwysau o ran cost yn cael ei ddarparu i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Yn ôl cais y Cadeirydd, byddai’n darparu crynodeb o newidiadau i’r rhagolygon ers yr adroddiad i’r Cyngor Sir ym mis Chwefror.
Gofynnodd y Cadeirydd am y newidiadau i ddiwygiad gwasanaeth y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad, a chafodd wybod y byddai canlyniad yr adolygiad ar draws y portffolios yn cael ei rannu yng ngweithdy’r Aelodau ym Medi.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes materion penodol i’w hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad ar 12 Gorffennaf.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: