Manylion y penderfyniad
Communal Heating Charges 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval for the heating charges in Council properties with communal heating systems for 2021/22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr eitem ac eglurodd bod y portffolio'n gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunol yn Sir y Fflint. Mae’r Cyngor yn trafod prisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor.
Roedd y ffioedd gwresogi cymunol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn.
Roedd y ffioedd arfaethedig ar gyfer 2022/23, wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn aros am gymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2022/23 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan barhau i drosglwyddo manteision costau ynni is i denantiaid.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod tenantiaid yn elwa o gyfraddau ffafriol fesul uned oherwydd bod y Cyngor wedi sicrhau cyfradd sefydlog ar ynni hyd at fis Mawrth 2023. Mae’n debygol iawn y bydd Ffioedd Gwresogi Cymunol yn codi o 2023/24 pan fydd raid i’r Cyngor drafod tariffau ynni newydd.
Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai ac Asedau ar 6 Gorffennaf. Roedd Aelodau’n cefnogi’r argymhellion ond mynegwyd pryderon am effaith unrhyw gynnydd ym mhrisiau ynni yn y dyfodol, yn enwedig pan fydd cyfnod y contract sefydlog presennol yn dod i ben.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunol a fydd yn dod i rym ar 5 Medi 2022.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai newid arall i drefn yr eitemau ar y rhaglen ac y byddai eitem rhif 18 ar y rhaglen: Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei ystyried nesaf.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/07/2022
Dogfennau Atodol: