Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To present the Outturn Revenue Budget Monitoring Report information for 2021/22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr eitem oedd yn rhoi sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Roedd y Cyfrifon ar gyfer 2021/22 wedi cael eu cau ac roedd y Cyngor ar y trywydd iawn i gyflwyno’r Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau cefnogol i Archwilio Cymru o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod y pandemig COVID-19 wedi parhau i achosi heriau i’r Cyngor a bod yr effaith ariannol dros y 12 mis diwethaf yn sylweddol. Roedd y sefyllfa derfynol yn adlewyrchu cyllid grant ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd wedi cyfrannu’n sylweddol at lefel y gwarged gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys cyllid Gofal Cymdeithasol ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf o £2.167 miliwn ynghyd â chyllid grant ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Plant gan Lywodraeth Cymru o £0.292 miliwn.
Y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Gwarged gweithredol o (£5.711 miliwn) a oedd yn symudiad ffafriol o (£1.107 miliwn) o’r ffigwr gwarged o (£4.604 miliwn) a adroddwyd ym Mis 10
· Gwarged gweithredol o (£5.711 miliwn) oedd gyfwerth a 1.9% o’r Gyllideb Gymeradwy, a oedd yn uwch na DPA y SATC o amrywiad yn erbyn y gyllideb o 0.5%
· Balans y gronfa wrth gefn at raid a ragwelwyd o £7.098 miliwn ar 31 Mawrth 2022
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Gwariant refeniw net £1.404 miliwn yn uwch na’r gyllideb
· Balans terfynol o £3.616 miliwn ar 31 Mawrth 2022
Eglurodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig nodi fod mwyafrif y symudiadau positif yn darparu budd unwaith yn unig ac na fyddent yn berthnasol i’r broses gosod cyllideb ar gyfer 2022/23.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2022;
(b) Nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a
(c) Chymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/07/2022
Accompanying Documents:
- Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn) PDF 183 KB
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn) PDF 91 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn) PDF 174 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn) PDF 64 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn) PDF 54 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn) PDF 54 KB
- Enc. 6 for Revenue Budget Monitoring Report 2021/22 (Outturn) PDF 75 KB