Manylion y penderfyniad
Update on the Induction Programme
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Darparodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wybodaeth am y Rhaglen Gynefino ac mae’r cam cyntaf wedi’i gynllunio o amgylch 4 thema. Byddai cofnodion y sesiynau hyfforddi ar gael ar dudalen yr aelodau er gwybodaeth yn y dyfodol. Rhestrir gwybodaeth am bresenoldeb a’r pynciau a drafodwyd yn y sesiynau hyfforddi yn Atodiad 1 a 2 a chyfeiriodd Aelodau at Atodiad 3, sy’n darparu gwybodaeth am y sesiynau Briffio Aelodau a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd.
Roedd y Cynghorydd Antony Wren yn credu fod yr hyfforddiant yn amhrisiadwy a gwerthfawr, ond bod gormod o wybodaeth. Roedd yn falch y byddai cofnodion ar gael, fel elfen loywi.
Gofynnodd y Cynghorydd Steve Copple pryd fyddai’r cofnodion ar gael. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gwefan yr Aelodau ar yr Infonet ym mis Medi, ond cytunodd i siarad â’r Cynghorydd Copple y tu allan i’r cyfarfod ac anfon dolenni ar gyfer yr un dan sylw.
Dywedodd y Cynghorydd Roz Mansell ei bod hi’n dymuno cael sgwrs â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd hefyd, gan ei bod hithau wedi methu sesiynau.
Diolchodd y Cynghorydd Gina Maddison i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am y rhaglen gynefino a dywedodd bod y gefnogaeth a ddarparwyd gan TG yn wych. Gofynnodd a fyddai’r Hyfforddiant Trwyddedu’n cael ei ddarparu eto ar gyfer y rhai a fethodd y sesiynau. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i siarad â’r Rheolwr Trwyddedu yr wythnos nesaf a rhoi adborth i’r pedwar aelod a fethodd yr hyfforddiant.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Antony Wren.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gynefino i Aelodau a gynhaliwyd ar ôl yr etholiadau, sydd wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 - Amserlen y Sesiynau Cynefino Rhan a, ac Atodiad 2 - Amserlen Sesiynau Cynefino Rhan b; a
(b) Bod y Pwyllgor yn ystyried a chefnogi’r dull o Ddatblygu Aelodau ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor, sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 3 - Datblygiad Aelodau Cyngor Sir y Fflint 2022/23.
Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Laura Turley)
Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Dogfennau Atodol: