Manylion y penderfyniad

Placement Commissioning Strategy (Children)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the Placement Commissioning Strategy.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) y Strategaeth Comisiynu Lleoliadau a oedd yn pennu uchelgeisiau’r Cyngor a’i gynlluniau i gefnogi plant oedd yn derbyn gofal yn lleol, gan gynnwys rhoi cefnogaeth i rieni a theuluoedd i ddarparu cartrefi diogel a chariadus yn Sir y Fflint.  Byddai angen gofal maeth a gofal preswyl ar rai plant a phe byddai modd eu cadw yn Sir y Fflint gallant gadw eu ffrindiau, aros yn yr un ysgolion a chadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd.  Roedd hi hefyd yn haws i swyddogion yr awdurdod gynnal y gefnogaeth ac ennyn ymddiriedaeth os oedd y plant yn aros yn Sir y Fflint, ac arweiniai hynny at well canlyniadau.  Byddai’n rhaid i rai plant, serch hynny, symud o Sir y Fflint er eu diogelwch a’u lles eu hunain.  

 

            Rhoes yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) wybodaeth fanwl am y dull “Mockingbird” o faethu ac eglurodd sut roedd y tair o ganolfannau’n dod â gofalwyr maeth ynghyd mewn clystyrau i gefnogi ei gilydd.  Soniodd am broblemau recriwtio gofalwyr maeth a bod yr awdurdod yn dibynnu ar asiantaethau maethu annibynnol, masnachol.  Roedd yr asiantaethau masnachol hynny’n recriwtio eu gofalwyr maeth eu hunain ac roedd yn rhaid i’r awdurdod brynu’r lleoliadau ganddynt am bris llawer drutach.  Argymhellodd bod yr Aelodau’n ymweld ag Arosfa, cartref preswyl wedi’i reoli gan Action for Children, a oedd yn darparu gofal seibiant i blant ag anableddau, a soniodd am y gefnogaeth a ddarperid yno.  Hon oedd yr unig ganolfan gofal preswyl a ddarperid yn fewnol ac roedd y Cyngor yn dibynnu’n llwyr ar y sector annibynnol.  Soniodd am y lleoliadau yn y sector annibynnol yn Sir y Fflint a oedd wedi gweithio’n dda ac arwain at ganlyniadau cadarnhaol.  Rhoes fraslun o’r rhaglen ar gyfer datblygu cartrefi gofal preswyl, gan gynnwys dau ohonynt oedd ar y gweill yn yr Wyddgrug. 

 

Roedd y Strategaeth yn pennu uchelgais y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf, a oedd yn gyson ag uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud i ffwrdd ag elw ym maes gofal cymdeithasol i blant.  Darparwyd gwybodaeth yngl?n â chyllid, y templed a gweithio mewn partneriaeth, yn ogystal â nifer y gofalwyr maeth a lleoliadau a fyddai’n ofynnol i gyflawni hyn.

               

Holodd y Cynghorydd Gina Maddison pam fod pobl yn dewis asiantaethau annibynnol yn hytrach na’r Cyngor, a chadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod yr asiantaethau hynny’n codi mwy o arian ar yr awdurdod ac yn talu mwy i ofalwyr maeth.   Roedd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru’n cydweithio i ddatblygu brand a rhoes wybodaeth fanwl yngl?n â’r gwaith oedd yn mynd yn ei flaen.

 

            Holodd y Cadeirydd yngl?n â gofalwyr a ddewisai ofalu am frodyr a chwiorydd, a chadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) y cynigid amryw gymhellion ar gyfer hynny gan fod y Cyngor yn gyflogwr oedd yn ystyriol o faethu, ac esboniwyd y rheiny ynghyd â chynlluniau eraill oedd ar gael i gefnogi brodyr a chwiorydd. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey gwestiwn yngl?n â therfyn oedran ar gyfer gofalwyr maeth a chadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) nad oedd unrhyw derfyn a bod y drefn yn gwbl gynhwysol; y peth pennaf oedd canfod y lleoliad mwyaf addas i’r plentyn.

 

            Holodd y Cynghorydd Andy Hughes yngl?n â’r gwahaniaethau yn y drefn i ddarparwyr preifat a’r Cyngor, a chadarnhaodd yr Uwch-reolwyr y defnyddiwyd yr un asesiadau.  Roedd yno wahanol drothwyon, yn enwedig felly ynghylch sgiliau a gwytnwch, a olygai fod ymgeiswyr y’u barnwyd yn anaddas gan yr awdurdod yn cael eu derbyn gan asiantaethau annibynnol, ond ychwanegodd fod yno ofalwyr ardderchog yn yr asiantaethau maethu annibynnol.  Roedd yr asiantaethau maethu annibynnol weithiau’n prosesu ceisiadau’n gynt, ond teimlid fod yno anfanteision yn hynny o beth gan fod angen sicrhau fod y gofalwyr maeth yn hollol barod ar gyfer lleoliadau.  Darparodd wybodaeth yngl?n â’r raddfa amser a gweithdrefnau’r panel.

               

            Soniodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn aelod o’r Panel Gofal Maeth a bod gofalwyr maeth yn cael eu gweld cyn diwedd y cyfnod o chwe mis.  Roedd hi’n dibynnu ar y wybodaeth yr oedd y gofalwyr maeth yn ei darparu a’r adegau’r oeddent ar gael i ddod i’r panel, ac roedd rhai pobl yn mynd drwy’r drefn yn eithaf chwim.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden fod Swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio dan amgylchiadau anodd iawn wrth orfod penderfynu a ddylid mynd â phlant oddi wrth eu teuluoedd.  Roedd y plant dan sylw wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod ar roedd yn rhaid i’r Cyngor eu cefnogi.   Roedd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud i ffwrdd ag elw ym maes gofal cymdeithasol i blant.

 

            Soniodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â safon gofalwyr maeth yr asiantaethau maethu annibynnol, a holodd a oedd y canlyniadau i blant maeth yn cael eu mesur er mwyn cymharu’r ddarpariaeth fewnol â’r sector preifat. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod yno fframwaith cymeradwy yng Nghymru a bod yn rhaid i’r Cyngor ei ddefnyddio wrth brynu lleoliadau.  Rheolwyd y drefn gan Gonsortiwm Comisiynu ar gyfer Plant Cymru ac roedd yn rhaid i’r holl ddarparwyr gofrestru â’r corff hwnnw.  Gweithredid dulliau sicrhau ansawdd cyn cofrestru ac roedd y Consortiwm yn rheoli’r drefn o wirio prosesau a sefyllfaoedd ariannol y darparwyr.  Pe byddai’r Cyngor yn methu â chynnig lleoliad i blentyn, trosglwyddid y wybodaeth i’r system fel y gallai darparwyr annibynnol gynnig lle.  Roedd yn rhaid i’r Cyngor gynnal diwydrwydd dyladwy wedi hynny, ac roedd wedi datblygu ei fframwaith ei hun er mwyn sicrhau bod lleoliadau’n ddiogel ac yn briodol a bod y darparwyr wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.


               
Pryderai’r Cynghorydd Parkhurst a archwilid cefndir gofalwyr maeth er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r safon ofynnol.  Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) yr archwilid proffil yr unigolyn ifanc ac y cynhelid gweithdrefnau sicrhau ansawdd i weld a oedd y gofalwr maeth yn cynnig y lleoliad mwyaf addas i’r plentyn.   Roedd Swyddogion Adolygu Annibynnol yn adolygu’r canlyniadau ar gyfer pob plentyn ac yn monitro’r lleoliad am y 28 diwrnod cyntaf i weld a fodlonid eu hanghenion.  Yn ogystal â hynny, roedd y gweithwyr cymdeithasol yn ymweld bob chwech wythnos ac roedd y gofalwyr maeth yn cymryd rhan yn yr adolygiad, gan gael eu dal i gyfrif am y gofal a ddarperid ganddynt.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Tina Claydon ei bod wedi ymweld â Th? Neath, a oedd yn ardderchog, a holodd a oedd unrhyw fwriad i adeiladu mwy o unedau fel hyn yn y dyfodol.  Rhoes yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) wybodaeth yngl?n â’r hyn y gobeithid ei gyflawni yn Nh? Neath, yr adeilad y drws nesaf ac adeilad arall a gyflwynwyd i Arolygiaeth Gofal Cymru er cymeradwyaeth yn ddiweddar.  Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru i wneud mwy o waith adnewyddu, a rhoes yr Uwch-reolwr fraslun o’r drefn ymgeisio, y dull o asesu lleoliadau a’r graddfeydd amser.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Andy Hughes ei bod yn hollbwysig dod â mwy o wasanaethau’n ôl yn fewnol, a gofynnodd am wybodaeth yngl?n â lefelau staffio presennol ymysg gweithwyr cymdeithasol.  Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) ei bod yn arbennig o heriol recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol plant, a rhoes wybodaeth am y bylchau mewn gofal cymdeithasol ymhob cwr o Gymru a’r Deyrnas Gyfunol.   Roedd rhaglen yn mynd rhagddi i ddatblygu staff mewnol ynghyd â rhaglen recriwtio lwyddiannus, a defnyddiwyd staff asiantaeth yn y tymor byr oherwydd heriau’n recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol Lefel 3.  Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol a staff rheng flaen ym maes gofal plant statudol, a bod yr holl awdurdodau’n ei chael yn anodd iawn recriwtio staff a’u cadw y tu hwnt i bum mlynedd wedi iddynt gymhwyso.  Roedd yr awdurdod yn ymchwilio i gyflogau, gwell ffyrdd o ddefnyddio gweithwyr cymdeithasol asiantaeth a gweithio â phartneriaid ac awdurdodau cyfagos.  Gofynnodd i’r aelodau am gymorth wrth hyrwyddo’r gwasanaeth er mwyn sicrhau y cynhelid enw da’r Cyngor cystal â phosib.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n gweithio i sefydlu graddfeydd cyflogau cenedlaethol yng Nghymru a fyddai o gymorth wrth oresgyn yr heriau o recriwtio a chadw staff.  Soniodd am y gwaith yr oedd y Cabinet yn ei wneud ag uwch-swyddogion yn hyn o beth. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cydbwyllgor o blaid y cynlluniau ar gyfer comisiynu yn y dyfodol fel y manylwyd yn eu cylch yn y Strategaeth Comisiynu Lleoliadau a gyflwynid i Lywodraeth Cymru.

Awdur yr adroddiad: Emma Cater

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 30/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: