Manylion y penderfyniad

Safeguarding in Education

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the discharge of statutory safeguarding duties in schools and the Education portfolio.

Penderfyniadau:

            Rhoes yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu fraslun o’r prosesau diogelu’r oedd y Cyngor yn eu darparu a chyfraniad y Swyddogion at y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid a’r Gwasanaethau Plant.  Darparwyd gwybodaeth hefyd yngl?n â’r blaenoriaethau ar gyfer hyfforddiant diogelu a rhannu gwybodaeth allweddol ag ysgolion er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel.   

 

            Darparodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu wybodaeth yngl?n â phrif bwyntiau canllawiau Llywodraeth Cymru: Diogelu Addysg, a oedd yn cynnwys offeryn archwilio i ysgolion ei ddefnyddio, ac eglurodd fod gan yr holl ysgolion ddyletswyddau statudol, yn enwedig felly ym maes diogelu.  Câi’r holl offerynnau archwilio ac adroddiadau eu hadolygu dros yr haf fel y gellid ymateb i’r themâu allweddol a hwyluso’r hyfforddiant.  Rhoes fraslun o’r hyfforddiant proffesiynol a ddarperid ar y we; bu’r ymateb iddo’n gadarnhaol a defnyddiwyd y sylwadau wrth gynllunio rhaglenni hyfforddiant yn y dyfodol. 

 

            Darparwyd gwybodaeth am Gynllun Gweithredu’r Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid, a chadarnhawyd na dderbyniwyd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru eto.  Esboniwyd sut yr eid ati i sefydlu hyn mewn ysgolion yn barod ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.

 

            Diolchodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) i’r Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu am ei gwaith.  Rhoes sicrwydd i’r Aelodau fod y tîm yn darparu cyngor, hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ardderchog i ysgolion ac yn eu cyfeirio at wahanol asiantaethau.  Roedd y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid yn dod o dan y Panel Diogelu Corfforaethol gan sicrhau y dilynid yr holl brosesau diweddaraf.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei bod wedi gwneud yr hyfforddiant a’i bod yn ei ganmol.  Yn dilyn awgrymiadau yngl?n â phynciau eraill y gellid darparu hyfforddiant ar-lein ar eu cyfer, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu y byddai’n siarad â’r Cynghorydd Carberry wedi’r cyfarfod. 

 

Argymhellodd y Cynghorydd Bill Crease fod yr holl Aelodau’n gwneud yr hyfforddiant, a rhoes ganmoliaeth i waith y Cyngor.  Dywedodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) fod yr hyfforddiant newydd a’r hyfforddiant gloywi’n ffyrdd ardderchog o ddysgu.  Byddai’n hapus i rannu rhywfaint o awgrymiadau ac roedd hi’n agored i unrhyw syniadau am hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion.  Drwy ddarparu’r hyfforddiant ar-lein bu modd darparu mwy o sesiynau.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden nad dim ond mater i ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol oedd hyn, ond yn hytrach yn rhywbeth i bawb a oedd yn gweithio yn yr awdurdod.  Rhoes enghreifftiau o’r pryderon a godwyd mewn ysgolion yngl?n â chaethwasiaeth fodern, ymddygiad rheolaethol neu gam-drin oedolion bregus.  Anogodd Gynghorwyr i fanteisio ar y cyfle i wneud yr hyfforddiant a magu gwell dealltwriaeth o’r materion perthnasol yn Sir y Fflint.  Diolchodd i’r swyddogion a oedd yn ymdrin â’r materion hyn bob dydd mewn ysgolion a phob rhan o’r Cyngor. 


               
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn gyd-gadeiryddion ar y Panel Diogelu Corfforaethol.  Anogodd yr Aelodau i wneud yr hyfforddiant diogelu corfforaethol er mwyn meddu ar yr holl wybodaeth wrth benderfynu.  Bu cynnydd mawr mewn adroddiadau yn ystod y pandemig, yn enwedig felly yngl?n ag oedolion bregus, a byddai’r hyfforddiant yn galluogi’r Aelodau i gael dealltwriaeth gyflawn o’r sefyllfaoedd hynny.  Awgrymodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) rannu rhifau ffôn a gwybodaeth am ddiogelu ag Aelodau’r Cydbwyllgor wedi’r cyfarfod.

 

            Soniodd y Cadeirydd am flynyddoedd a fu pan roddwyd posteri mewn toiledau ysgolion uwchradd gyda manylion cyswllt i ddisgyblion a deimlai dan fygythiad, a holodd a oedd hynny’n dal yn digwydd.   Cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) y byddai’n

holi yngl?n â hynny ac yn sicrhau y darperid gwybodaeth am atgyfeiriadau mewn mannau amlwg mewn ysgolion.

 

            Holodd y Cynghorydd Carolyn Preece yngl?n â hyfforddiant diogelu gorfodol a’r botwm diogelu, a dywedodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) fod yno fotwm diogelu y gallai pawb ei bwyso ynghyd â rhif ffôn.  Y ffordd orau o godi unrhyw bryderon oedd llenwi’r ffurflen adrodd ar gyfer diogelu, a chytunodd y byddai’n rhannu gwybodaeth yngl?n â hynny.    Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu y byddai disgwyl i swyddog arweiniol diogelu neu lywodraethwr oedd wedi gwneud hyfforddiant lefel 3 ail-wneud yr hyfforddiant bob dwy flynedd. Cynhelid hyfforddiant lefel 2 bob tair blynedd, ond yr arfer orau oedd darparu’r cwrs i holl staff yr ysgol unwaith y flwyddyn.

 

            Rhoes y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wybodaeth am yr achosion aeth gerbron y Panel Diogelu Corfforaethol o bob rhan o’r sir.  Awgrymodd bod Aelodau’n lawrlwytho’r ap ar gyfer Gweithdrefnau Diogelu Cymru gan ei fod yn egluro’r holl weithdrefnau i blant ac oedolion ac yn rhwydd iawn ei ddefnyddio.  Roedd yn cynnwys llawer o wybodaeth berthnasol ac yn werth ei gael ar eich ffôn.  Roedd yr hyfforddiant yn syml i’w gwblhau ac nid oedd yn cymryd llawer o amser.

 

            Roedd Mrs Lynn Bartlett yn falch fod yr hyfforddiant yn cynnwys aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn ysgolion uwchradd, ac awgrymodd fod y Cydbwyllgor yn derbyn adroddiad ynghylch Perthnasoedd ac Addysg Rhyw er mwyn darparu gwybodaeth am y modd yr oedd hyn yn cyfrannu at leihau niwed.  Roedd y Cydbwyllgor o blaid yr awgrym hwnnw. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Teresa Carberry y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad ynghylch diogelu mewn addysg.  

 

Awdur yr adroddiad: Vicky Barlow

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 30/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: