Manylion y penderfyniad

Welsh Government (WG) Programmes Summer of Fun and Winter of Well-being

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with an update on the Welsh Government (WG) Programmes - Summer of Fun and Winter of Well-being.

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddisgrifiad manwl o’r rhaglenni llwyddiannus “Haf o Hwyl” a “Gaeaf Llawn Lles”, gan gadarnhau y rhannwyd y wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Rhagfyr 2021.  Roedd yr adroddiad arfarnu cenedlaethol yn dangos mor bwysig oedd y rhaglenni hyn i bobl ifanc ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu ychwaneg o gyllid gydol y gaeaf ac eto ar gyfer y rhaglen eleni.   

 

            Rhoes y Prif Swyddog fraslun o’r prif amcanion a’r gweithgareddau a ddarparwyd, a soniodd am y cydweithio rhwng y Cyngor a phartneriaid (llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Aura, gofalwyr ifanc, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Menter Iaith Sir y Fflint a Wrecsam, a Theatr Clwyd) yn ogystal â’r timau a fu’n cynorthwyo.  Rhannodd wybodaeth yngl?n â’r modd y dosberthid y cyllid o £276,000 er mwyn anelu’r gefnogaeth at deuluoedd bregus, ac eglurodd sut y bwriedid hyrwyddo hyn i deuluoedd.  Darparwyd y rhaglen ochr yn ochr â’r cynlluniau’r oedd y Cyngor eisoes wedi’u darparu ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd gwestiynau yngl?n â darparu bwyd, hygyrchedd a chofrestru, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y darperid bwyd yn y digwyddiadau Haf o Hwyl ond nid yng nghynlluniau chwarae’r Cyngor, gan fod Llywodraeth Cymru wedi galluogi teuluoedd oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim i dderbyn taliadau uniongyrchol yn ystod y gwyliau.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno, serch hynny, i ddarparu rhywfaint o fwyd a byrbrydau yn y cynlluniau chwarae.  Wrth sôn am hygyrchedd, dywedodd y Prif Swyddog y cynhelid y gweithgareddau ar wasgar ledled y sir, gyda’r nod o alluogi cynifer o deuluoedd â phosib i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol.

 

            Wrth ateb cwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y darperid gweithgareddau ledled y sir a chytunodd y byddai’n dosbarthu gwybodaeth berthnasol ar ôl y cyfarfod.  Cadarnhaodd fod y rhaglen yn targedu plant agored i niwed yn benodol gyda chymorth y timau Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Plant.  Darparwyd gwybodaeth hefyd yngl?n â threfniant cyfeillio er mwyn galluogi plant i gymryd rhan mewn cynlluniau chwarae lleol.

 

            Holodd y Cynghorydd Andy Hughes yngl?n â hyrwyddo’r digwyddiadau hyn a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol, y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd a phob dull posib arall i hyrwyddo’r rhaglen.  Gofynnodd i’r Aelodau a fedrent gynorthwyo wrth drosglwyddo’r neges.  Dywedodd y Cadeirydd fod manylion am y rhaglen ar wefan ei Chyngor Cymuned a bod ysgolion lleol yn cynnwys gwybodaeth yn eu newyddlenni.

 

            Holodd y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â’r cynllun chwarae yn yr Hôb, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cysylltwyd â Chynghorau Tref a Chymuned yn gynharach yn y flwyddyn i gynnig cydweithio wrth gynnal cynlluniau chwarae yn yr haf, a chytunodd y byddai’n siarad â’r Cynghorydd Healey ar ôl y cyfarfod.  Ni rannwyd gwybodaeth am yr Haf o Hwyl gan mai’r Cyngor Sir oedd yn ei gynnal.

 

            Dymunai’r Cynghorydd Andrew Parkhurst sicrhau fod y Cynghorau Tref a Chymuned yn gwybod am y rhaglen Haf o Hwyl a bod yr holl deuluoedd mewn cymunedau gwledig yn medru cymryd rhan yn y rhaglen.  Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr anfonwyd gwybodaeth am y Cynllun Chwarae ond nid am yr Haf o Hwyl gan mai’r Cyngor oedd yn ei gynnal, ond cytunodd y byddai’n codi’r mater yn y cyfarfodydd cynllunio strategol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Teresa Carberry i’r holl swyddogion a phartneriaid a fu’n rhan o’r gwaith.  Cytunodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai’n cyfleu diolchiadau’r pwyllgor i’r tîm.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie ddilyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliodd Mrs Lynne Bartlett y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Cydbwyllgor yn fodlon bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint wedi elwa ar gyllid Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gaeaf Llawn Lles.

 

(b)     Bod y Cydbwyllgor yn fodlon â’r trefniadau ar gyfer rhaglen Haf o Hwyl 2022; ac

 

(c)     Cydnabod yr ymatebion a gafwyd wrth gynnal arfarniad cenedlaethol o raglenni Llywodraeth Cymru, a oedd yn dystiolaeth o’u heffaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc.

 

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 30/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/06/2022 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: