Manylion y penderfyniad
Drury Primary School – Financial Management Arrangements
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To inform Committee of the Internal Audit
review of Drury Primary School.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad am adolygiad Archwilio Mewnol Ysgol Gynradd Drury - fel y gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) - roedd barn Coch (sicrwydd cyfyngedig) wedi cael ei roi. Manylodd yr Uwch Archwilydd sgôp yr adolygiad oedd wedi cael ei gytuno gyda’r Prif Swyddog a’r ysgol, ynghyd â chrynodeb o’r prif gasgliadau ac argymhellion.
Roedd Mark Biltcliffe (Prifathro) a Simon Griffiths (Cadeirydd Llywodraethwyr) Ysgol Gynradd Drury yn bresennol i roi diweddariad am gynnwys o ran gweithredu’r argymhellion.
Gan ymateb i gwestiynau, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eglurhad am gyfathrebu ac ymgysylltu gyda’r ysgol trwy gydol y cyfnod ac roedd wedi gofyn am ddiweddariad rheolaidd am gamau gweithredu gan yr ysgol i roi sicrwydd o’r cynnydd.
Fe eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y bydd archwiliad dilynol yn cael ei gynnal a gallai tystiolaeth a adolygwyd cyn pob argymhelliad gael eu cau. Bydd y tîm Archwilio Mewnol yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr Addysg a’r ysgol er mwyn sicrhau bod camau’n cael eu gweithredu ac mae adroddiad pellach wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr 2023. Bydd cynnydd hefyd yn cael ei adrodd yn rhan o olrhain camau gweithredu.
Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r cyfranwyr am fod yn bresennol, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ysgol a’r Prif Swyddog.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks a’r Parchedig Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac adroddiad dilynol yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr 2023.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 30/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 08/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/06/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio