Manylion y penderfyniad

Y Diweddaraf am Foderneiddio Ysgolion

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update to Members on the School Modernisation Programme

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) at ysgolion Licswm ac Ysgol yr Esgob yng Nghaerwys a oedd wedi’u ffederaleiddio’n ffurfiol ar 7Mehefin. Cyfeiriodd at y Rhaglen Gofal Plant, a dywedodd fod rheolaeth weithredol y rhaglen bellach wedi’i throsglwyddo o’r Gwasanaethau Cymdeithasol i’r portffolio Addysg. Rhoddodd amlinelliad o sut roedd y rhaglen yn cael ei hariannu a’i rhoi allan i dendr er mwyn cael y gwerth gorau am arian ac arian grant gan Lywodraeth Cymru.  

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) fanylion am Gampws newydd Mynydd Isa a chadarnhaodd fod caniatâd cynllunio wedi’i roi ym mis Ionawr. Roedd contract dylunio ac adeiladu wedi cael ei ddewis drwy Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCO) a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiectau’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) yng Nghymru. Byddai’r achos busnes yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth ac os byddai’n derbyn cymeradwyaeth y gweinidogion yna byddai papur yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Mehefin er mwyn cael cymeradwyaeth i symud ymlaen i’r cam adeiladu. Y dyddiad cwblhau arfaethedig oedd mis Gorffennaf 2024 a’r disgwyl oedd y byddai’r ysgol yn agor ym mis Medi 2024.

 

Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad trylwyr.  Gan gyfeirio at ffederasiwn Ysgolion Licswm ac Ysgol yr Esgob roedd o’r farn bod y buddion i’r disgyblion a’r staff yn sylweddol. Roedd y ddwy ysgol yn rhannu staff a llwyth gwaith ac roeddynt yn credu fod hyn yn gwella ansawdd yr hyn roeddynt yn ei ddarparu, ynghyd â’r gwasanaeth gofal cofleidiol, a oedd yn wych ar gyfer yr ardal. Estynnodd ei longyfarchiadau i bawb a oedd wedi cynorthwyo hyn.  Gan gyfeirio at y buddsoddiad mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dywedodd y Cynghorydd Jones fod hyn yn profi bod y cyngor yn cymryd camau i ddarparu’r ddwy iaith ar draws y sir. Roedd yn cymeradwyo’r Uwch Reolwr, a phawb a oedd yn gysylltiedig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Smith at brosiectau gwych Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a oedd wedi dod â budd i Sir y Fflint i gyd. Gofynnodd a oedd hyn yn debyg i’r cynllun PFI ac a oedd y costau yn hysbys iddo ar gyfer MIM o’i gymharu â benthyca am dros 25 mlynedd yn ôl y drefn arferol.  Mewn ymateb esboniodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) fod costau yn gysylltiedig pan gyflwynwyd yr achos busnes ac roedd hyn wedi cael ei gynnwys yng nghynlluniau ariannol a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor (MTFS). 

 

            Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn croesawu’r buddsoddiad yn Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy a dywedodd fod 10 disgybl wedi gallu mynychu Ysgol Maes Garmon ym mis Medi. Talodd deyrnged i’r Pennaeth, Athrawon, Llywodraethwyr, a’r disgyblion am lwyddo i sicrhau ysgol cyfrwng Cymraeg yng nghanol Glannau Dyfrdwy. Gofynnodd a oedd unrhyw gynigion i gynnig darpariaeth o’r fath yn ardaloedd Bwcle a Mynydd Isa er mwyn efelychu llwyddiant Shotton yn y rhan honno o’r Sir hefyd. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y gellid sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn ardal Bwcle a Mynydd Isa lle’r oedd galw. 

 

            Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) at sylwadau’r Cynghorydd Tudor Jones am y ffederasiwn a dywedodd fod hyn yn agored i unrhyw gorff llywodraethu ei hyrwyddo ac y byddai’n cael ei gefnogi gan y Cyngor. Roedd o’r farn y gallai Licswm ac Ysgol yr Esgob arwain ar hyn oherwydd y manteision a oedd yn gysylltiedig i athrawon, dysgwyr a’r gymuned.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorydd Sean Bibby, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ian Smith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ac yn gwerthfawrogi’r gwaith sy’n cael ei wneud.

 

Awdur yr adroddiad: Damian Hughes

Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: