Manylion y penderfyniad
Learner Outcome Assessment Processes for 2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with an overview of the
examination and assessment arrangements for Summer 2022.
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod gwahanol ddulliau wedi cael eu defnyddio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer dysgwyr cyfnod allweddol 4 a 5. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gyfer eleni yn dilyn trefniadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC).
Rhoddodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion ddiweddariad ar y paratoadau ar gyfer arholiadau TGAU a Safon Uwch eleni. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, oherwydd y pandemig, roedd yr arholiadau hyn wedi cael eu canslo ac yn eu lle cafwyd Graddau wedi’u hasesu gan ganolfannau yn 2020 a Graddau wedi’u pennu gan ganolfannau yn 2021. Cyflwynodd yr adroddiad y sefyllfa bresennol, y cynlluniau wrth gefn a’r asesiadau a fyddai’n cael eu rhoi ar waith petai’r amgylchiadau yn newid. Roedd y rhain wedi cael eu rhannu gyda’r ysgolion, rhieni a dysgwyr a oedd yn sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn. Cadarnhaodd fod arholiadau’r gwanwyn wedi cael eu cynnal ym mis Ionawr a chanmolodd yr ysgolion am eu gwaith caled a’r cymorth roeddynt yn ei roi i ddysgwyr.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Martin White at yr holl darfu a’r newidiadau roedd myfyrwyr wedi’u dioddef yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a’r ffaith bod myfyrwyr eleni yn wynebu llawer o heriau wrth baratoi ar gyfer arholiadau. Cytunodd y Cadeirydd a dywedodd fod y pandemig wedi cael effaith ar addysg ein pobl ifanc ond canmolodd y ffordd roeddynt wedi ymdopi, a’r cymorth a ddarparwyd gan ysgolion a’r rhieni.
Cytunodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion a dywedodd fod pawb yn ymwybodol o’r heriau a oedd yn wynebu’r bobl ifanc hyn a thalodd deyrnged i’w hysbryd cydnerth. Er gwaethaf yr holl newidiadau, roedd rhai ffug arholiadau wedi cael eu cynnal. Rhoddodd wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Gymwysterau Cymru a CBAC o ran y gwaith papur a’r cymorth a roddwyd er mwyn galluogi’r bobl ifanc hyn i lwyddo.
Gofynnodd y Cadeirydd am sicrwydd y byddai’r papurau yn caniatáu elfen o hyblygrwydd gan fod rhai dysgwyr o bosibl wedi methu testunau gan eu bod yn hunan-ynysu neu oherwydd bod yr ysgol ar gau. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion fod Cymwysterau Cymru a CBAC wedi rhoi gwybodaeth i ysgolion ymlaen llaw o ran y gofynion ar gyfer yr arholiadau addasedig. Roedd yr heriau yn wahanol ar draws Cymru a byddai’r cwricwlwm newydd yn darparu cynnwys addysg a sgiliau i ddysgwyr ar lefel leol. Byddai’r wybodaeth hon yn rhan o drafodaethau am y math o gymwysterau ac asesiadau fyddai’n wynebu dysgwyr yn y dyfodol a sut byddai hyn yn rhan o’r cwricwlwm newydd o fis Medi nesaf ymlaen. Roedd llawer o ganlyniadau da yn dod o’r sefyllfa hon.
Cynigiwyd yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Janet Axworthy, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd ar gyfer asesiadau yn 2022 ac yn cydnabod gwaith caled yr ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint wrth gefnogi grwpiau’r blynyddoedd arholiadau.
Awdur yr adroddiad: Vicky Barlow
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: