Manylion y penderfyniad

Climate Change Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

In December 2019 the Council committed to development of an action plan to achieve carbon neutrality by 2030 in line with Welsh Government’s requirement for the public sector. Our Programme Manager presents the draft strategy document that details our roadmap to achieve this target.

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr awdurdod wedi penderfynu bod yn garbon niwtral yn 2019. Mae Alex Ellis wedi’i benodi’n Rheolwr Rhaglen i ddatblygu’r Strategaeth Newid Hinsawdd. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf ac yna i’r Cyngor Sir.

 

            Dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod Llywodraeth Cymru, yn 2019, wedi galw ar awdurdodau sector cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Ym mis Rhagfyr 2019 penderfynodd y Cabinet ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd sy’n nodi cynigion y Cyngor i fod yn gyngor carbon niwtral erbyn 2030. Mae’r Cyngor wedi darparu gweithgareddau datgarboneiddio ers sawl blwyddyn, yn cynnwys cynlluniau ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae’r Strategaeth Newid Hinsawdd yn nodi amcanion y Cyngor i symud tuag at y nod sero net a darparodd drosolwg o’r gwaith ymgysylltu sydd wedi’i wneud a’r adborth a dderbyniwyd. Gan gyfeirio at y strategaeth, darparodd wybodaeth am ffigyrau allyriadau gwaelodlin ac amlygodd y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma a’r amcanion arfaethedig i leihau allyriadau uniongyrchol yn y sir. Mi fydd yna oblygiadau ariannol yn nhermau refeniw a chyfalaf a bydd angen rhoi sylw pellach i’r camau gweithredu dan bob thema er mwyn deall y goblygiadau o ran adnoddau. Mae’r Cyngor wedi defnyddio sawl ffynhonnell ariannu a rhagwelir y bydd cyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen at y strategaeth ac amlygodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Dan bwynt 6.7 ar dudalen 53 – gwybodaeth am ffigyrau gwaelodlin allyriadau carbon yn seiliedig ar ddata allyriadau 2018/19. Cadarnhaodd fod yna ostyngiad o 17% yn y waelodlin honno yn 2021.

 

·         Dan bwynt 7.1 ar dudalen 55 – mae’r siart yn rhagfynegi’r gostyngiadau y gallai’r camau gweithredu eu cyflawni ond mae hynny’n gadael bwlch o 20,000 mewn C02 erbyn 2030. Eglurodd fod mesurau nad ydynt ar gael eto ac y byddai hyn yn cael ei fonitro a’i ystyried pan fydd y strategaeth yn cael ei hadolygu ymhen dwy flynedd. Mae mantoli allyriadau gyda phlannu coed wedi’i amlinellu a byddai ar y Cyngor angen blaenoriaethu sut mae asedau tir yn cael eu neilltuo ar gyfer hyn.

 

·         Dan bwynt 7.10 ar dudalen 57 – mae hyn yn amlygu’r targedau dros dro dan y themâu allyriadau carbon uniongyrchol.

 

·         Dan bwynt 8.1 ar dudalen 58 – darparwyd crynodeb o’r nodau allweddol dan bob thema.

 

·         Mae bioamrywiaeth wedi’i integreiddio yn y strategaeth, gan roi ystyriaeth i newid hinsawdd a datgarboneiddio. Darparwyd gwybodaeth am sut mae’r rhain yn cael eu cynnwys a’r hyfforddiant sydd ei angen.

 

            Eglurodd Rheolwr y Rhaglen y byddai’r Cyngor, drwy gyrraedd y nodau hyn, yn gallu cyrraedd ei dargedau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r targed Cymru Sero Net erbyn 2050. Byddai’r Cyngor hefyd yn cyrraedd ei nodau dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant a Deddf yr Amgylchedd. Gorffennodd drwy ddweud fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf a bod gwaith yn cael ei wneud dan bob thema i nodi’r statws presennol a’r goblygiadau o ran adnoddau.

 

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â phennu targedau, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen fod y rhagfynegiadau gostyngiadau yn seiliedig ar gamau gweithredu sydd eisoes ar waith. Gan fod y Cyngor wedi bod yn rhagweithiol gyda’r camau hawdd eu cymryd, yr hyn sydd ar ôl yw’r camau mwy cymhleth fel gwelliannau i’r fflyd. Mae bwrw ymlaen â’r camau hyn yn ddibynnol ar ddeddfwriaeth ac adnoddau Llywodraeth Cymru a datblygiadau technolegol.

 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen a yw’r ysgolion newydd a’r estyniadau wedi cyrraedd y targed carbon niwtral o 100%. Mewn ymateb, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen, yn dilyn y mandad newydd a ddaeth i rym fis Ionawr, y bydd datblygiadau arfaethedig yn gorfod cyrraedd y targedau hynny. Cadarnhaodd mai’r ffocws yw gwneud adeiladau presennol yn fwy ynni effeithlon. Cadarnhaodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod paneli ffotofoltäig wedi’u gosod ar ysgolion i sicrhau eu bod yn fwy ynni effeithlon. Bydd yr ysgol newydd ym Mynydd Isa yn sero net ac wedi’i hariannu drwy gyllid Llywodraeth Cymru.

           

            Gan gyfeirio at bwynt y Cadeirydd am dargedau, cadarnhaodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yna fwy o ffocws ar 2030 gan fod llawer o’r targedau yn ymwneud â chaffael. Mae dylanwadu ar y gadwyn gyflenwi a chaffael nwyddau a gwasanaethau yn anodd a byddai’n cymryd amser i sefydlu, ond mae’r buddion posibl yn arwyddocaol iawn.

 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom am fancio tir, eglurodd Rheolwr y Rhaglen mai blaenoriaeth y Cyngor yw lleihau allyriadau carbon ac y byddai defnyddio darnau o dir ar gyfer mantoli allyriadau angen ystyriaeth ofalus. Pan fydd tir yn dod ar gael byddai’n rhaid i’r Cyngor benderfynu a fyddai modd ei neilltuo ar gyfer plannu coed er mwyn atafaelu carbon i fantoli allyriadau.

 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Vicky Perfect, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen y byddai’r Strategaeth Plannu Coed Trefol a Choetir yn cael ei hadolygu i nodi tiroedd addas i atafaelu carbon. Mae’n rhaid ystyried ansawdd y tir, y dirwedd ac a fyddai’r prosiect yn sympathetig i’r ardal gyfagos. Byddai’r Tîm Amgylchedd Naturiol yn sicrhau bod y tir yn briodol.

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio fod gwerthiannau tir yn rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor. Yna fe gyfeiriodd at y datrysiadau sydd wedi’u cyflawni i ddelio gyda ffosffadau a dywedodd fod cynllun ac ymrwymiad eisoes yn eu lle ar gyfer plannu coed, gan fod gan y sir orchudd coed isel. Mae angen ystyried clefyd coed ynn hefyd. Er mwyn i’r Cyngor gyflawni mae’n rhaid ymgysylltu gyda sefydliadau eraill.

 

 

            Cytunodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Stryd gan ddweud bod hyn yn gyfrifoldeb ar bawb. Dywedodd fod cynnal cyfarfodydd ar-lein yn hytrach nag yn Neuadd y Sir wedi cyfrannu rhywfaint at arbed carbon.

 

 

            Siaradodd y Cynghorydd Sean Bibby, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd, gan ddiolch i’r Prif Swyddog a chydweithwyr am eu gwaith caled.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Sean Bibby a Patrick Heesom.           

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflawni mesurau lleihau carbon.

 

(b)       Cymeradwyo Strategaeth Newid Hinsawdd 2022-2030 a’i nodau.

Awdur yr adroddiad: Alex Ellis

Dyddiad cyhoeddi: 18/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 08/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: