Manylion y penderfyniad
Declaration and Disposal of Land Surplus to Requirements
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To agree minor changes to the Constitution to
improve transparency and clarity around how land will be declared
surplus to requirements.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod yn rhaid i’r Cyngor, o dro i dro, benderfynu nad oes arno angen darn o dir, ac yn ei gategoreiddio fel ‘tir nad oes ei angen’. Caiff tir o’r fath ei werthu gan gynhyrchu derbyniadau sy’n ariannu’r rhaglen gyfalaf.
Mae’n bwysig bod y penderfyniad i wneud hynny yn cynnwys ymgynghoriad gyda’r partïon perthnasol, yn enwedig os yw’r eiddo yn rhan o’r stad addysg.
Nid yw’r broses wedi’i dogfennu ac argymhellir bod proses fer yn cael ei chynnwys yn y Cyfansoddiad er mwyn egluro pethau a sicrhau ein bod ni’n dryloyw.
Cynigwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Bithell.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell pwy sy’n prisio’r tir ac eglurodd y Prif Weithredwr y byddai hynny’n dibynnu ar y tir, ac y byddai’r prisiwr mwyaf priodol yn cael ei ddefnyddio.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones, dywedodd y Prif Weithredwr bod yna achlysuron lle mae darn o dir i’w waredu wedi bod ar safle ysgol a dan yr amgylchiadau hynny mae’r Cyngor yn trafod gyda’r ysgol.
Cafwyd trafodaeth o ran pryd fydd Aelodau ward yn rhan o’r broses o waredu tir. Teimlodd yr Aelodau y dylai hynny fod yn gynt yn y broses, a cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones ddiwygiad i gynnwys “pan fo darn o dir yn cael ei nodi fel tir nad oes ei angen, dylid rhoi gwybod i’r Aelod lleol”.
Fel cynigydd ac eilydd yr argymhelliad, derbyniodd y Cynghorwyr Phillips a Bithell y diwygiad i ffurfio rhan o’r cynnig gwreiddiol.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod yna ddulliau atebolrwydd a fyddai’n cael eu hadrodd drwy’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob blwyddyn ar bris gwerthu tiroedd sydd wedi’u gwaredu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Marion Bateman, eglurodd y Prif Weithredwr fod y tir sydd ar werth ar y Gofrestr Asedau, sy’n ddogfen gyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
Bod y broses arfaethedig ar gyfer nodi a gwaredu tir nad oes ei angen yn cael ei chynnwys yn y Cyfansoddiad a bod Aelodau Lleol yn cael gwybod pan fydd darn o dir wedi’i nodi fel tir nad oes ei angen. Bydd pris gwerthu tiroedd sydd wedi’u gwaredu yn cael ei adrodd yn flynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/01/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: