Manylion y penderfyniad
Local Government & Elections Act 2021 update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on implementation of the Local Government & Elections Act 2021.
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) ac eglurodd unwaith eto fod y Ddeddf yn ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu nifer o faterion. Mae’n ddeddfwriaeth anferth – gyda 170 o adrannau ac 14 o atodlenni, a dyna pam bod y cyfnod datblygu wedi bod mor hir. Mae rhai agweddau o’r Ddeddf yn adlewyrchu’r hyn mae Sir y Fflint, fel awdurdod arfer gorau, yn ei wneud yn barod. Ar gyfer y rhannau eraill bydd y swyddogion yn gwneud y gwaith angenrheidiol i’w gweithredu o fewn yr amserlenni penodedig.
Mae’r rhan fwyaf o’r Ddeddf eisoes wedi dod i rym ond mae yna rai darpariaethau allweddol na fydd ar waith tan 5 Mai 2022, i gyd-fynd â dyddiad Etholiadau’r Llywodraeth Leol.
Mae gweithgor swyddogion wedi’i sefydlu i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llawn a bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyngor o bryd i’w gilydd.
Mae cynnydd hyd yma wedi’i nodi yn yr atodiad i’r adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Phillips ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adroddiad briffio yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor;
(b) Bod y Cyngor yn nodi goblygiadau cyfansoddiadol a goblygiadau eraill y Ddeddf, a bod y Gweithgor Gweithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 yn gweithio arnynt dan arweiniad y Prif Swyddog (Llywodraethu).
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/01/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: