Manylion y penderfyniad

Social Value

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the risks, challenges and opportunities for the Council’s Social Value Programme and to agree actions and next steps.

Penderfyniadau:

Fel Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael, cyflwynodd Paul Johnson adroddiad ar raglen gwerth cymdeithasol y Cyngor a gynlluniwyd i gyflawni canlyniadau gwerth ychwanegol cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol drwy weithgareddau caffael. Canmolodd y canlyniadau positif yn ystod 2021 oedd wedi arwain at gyfraniadau sylweddol i economi a chymunedau lleol Sir y Fflint a siaradodd am y nod o wneud gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o’r sefydliad drwy waith y tîm gwerth cymdeithasol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hanes blaenorol y Cyngor o ddarparu gwerth cymdeithasol yn cael ei gydnabod yn eang.   Cyflwynodd Olivia Hughes, y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol a roddodd gyflwyniad ar y risgiau, heriau a chyfleoedd o fewn y rhaglen gwerth cymdeithasol, yn cynnwys:

 

·         Diffiniad o werth cymdeithasol

·         Dangosyddion perfformiad allweddol

·         Astudiaethau achos

·         Heriau allweddol

·         Goresgyn heriau

·         Argymhellion i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

 

Amlygodd y cyflwyniad ystod y canlyniadau hyd yma i gymunedau lleol, prentisiaethau a thwf economaidd drwy weithgareddau caffael yn gysylltiedig â gwerth cymdeithasol. Ymhlith yr heriau allweddol, roedd angen cynyddu adnoddau i fodloni’r galw i’r dyfodol a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor y rhaglen.

 

Wrth ddiolch i’r swyddog am ei chyflwyniad, canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y cyflawniadau ar werth cymdeithasol a chafodd fwy o wybodaeth am ymgysylltu â gwirfoddolwyr.

 

Er ei fod yn croesawu’r adroddiad, roedd y Cynghorydd Richard Jones yn cwestiynu’r pwyslais parhaus ar gefnogi contractau pan aethpwyd y tu hwnt i’r targed corfforaethol ar draul meysydd eraill y rhaglen.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y dull uchelgeisiol cychwynnol o wneud gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o weithgareddau’r Cyngor wedi cael ei adolygu i flaenoriaethu gwaith a gwneud y mwyaf o adnoddau yn y tîm bychan i gyflawni’r canlyniadau cywir ar draws y rhaglen.

 

Siaradodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol am effaith yr adnoddau ychwanegol dros dro a ddyrannwyd yn ystod 2021, oedd yn dangos beth ellid ei gyflawni gyda mwy o gapasiti.  Wrth ymateb i fwy o gwestiynau, rhoddodd eglurhad ar sefydlu’r gofynion craidd penodol ym mhob contract a sgorio contractau yn seiliedig ar y gwerth gorau a chyfleoedd gwerth cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y posibilrwydd o wella canlyniadau ymhellach drwy adolygu lefel yr adnoddau ac archwilio cyfleoedd gwerth cymdeithasol mewn contractau lefel is.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y rhaglen gwerth cymdeithasol hyd yma; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig ynghylch adrodd ar berfformiad i gyflawni rhaglen waith gwerth cymdeithasol cyraeddadwy ar gyfer 2022/23, gyda’r adnoddau sydd ar gael, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Kelly Oldham-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2022

Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: