Manylion y penderfyniad
Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2020-21 and Complaints Made Against Flintshire County Council During the First Half of 2021-22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To share the Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2020-21 and Complaints made against Flintshire County Council Services in the first half of 2021-22 (April-September 2021).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a’r diben oedd rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint.
Roedd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon yn rhoi trosolwg o berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion a ymchwiliwyd yn 2020-21.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o gwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio i’r Cyngor rhwng y cyfnod 1 Ebrill - 30 Medi 2021.
Roedd y nifer o gwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon am awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi gostwng 12.5% yn 2020-21 oedd yn adlewyrchu’r gostyngiad mewn cwynion a adroddir arnynt gan awdurdodau lleol yn ystod y pandemig Covid-19.
Roedd yr Ombwdsmon wedi ymyrryd (wedi cadarnhau, setlo neu ddatrys yn fuan) yn yr un gyfran o gwynion am gyrff cyhoeddus, 20% o’i gymharu â 2019-20.
Roedd 35 o gwynion Sir y Fflint yn gynamserol ac roedd hynny’n cyfrif am 59% o’r cwynion. Ar draws Gogledd Cymru roedd cyfartaledd y cwynion cynamserol yn 11. Roedd y dadansoddiad yn egluro er bod y nifer cyffredinol o gwynion a wnaed yn erbyn Sir y Fflint yn uchel, roedd hynny yn bennaf oherwydd y nifer uwch na’r cyfartaledd o gwynion cynamserol.
Roedd angen adolygu sut yr oedd yr awdurdod yn hybu ei weithdrefnau cwynion ei hun a phwysigrwydd hysbysu achwynwyr am gynnydd eu cwyn i leihau’r nifer o atgyfeiriadau cynamserol i’r Ombwdsmon.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y perfformiad blynyddol o’r Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2020-21 yn cael ei nodi;
(b) Bod perfformiad hanner blwyddyn 2021-22 y Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i wasanaethau yn unol â’i weithdrefnau cwynion yn cael ei nodi; a
(c) Cefnogi’r camau a amlinellwyd yn yr adroddiad i wella’r broses o ddelio â chwynion ar draws y Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Rebecca Jones
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 24/02/2022
Accompanying Documents: