Manylion y penderfyniad
Welsh in Education Strategic 10 year Plan 2022 - 2032
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide an update on the draft Welsh in Education Strategic Plan (WESP) and the statutory consultation arrangements.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a ddatblygwyd i ddarparu trosolwg i’r Aelodau o’r cynllun drafft ar gyfer y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) nesaf a gynhelir rhwng Medi 2022 a 2032.
Roedd y Cyngor yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Roedd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn Sir y Fflint yn declyn strategol hirdymor er mwyn i’r Cyngor gyfrannu at y nod ledled y wlad i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl sydd yn y gymuned ehangach, gyda'r nod o greu sir a gwlad sy'n gynyddol ddwyieithog.
Byddai’r cynllun deng mlynedd cyntaf yn dechrau ar 1 Medi 2022 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2032. Byddai pob cynllun pellach yn dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fyddai’r cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben e.e. 1 Medi 2032 hyd at 31 Awst 2042. Mae’n rhaid i’n cynllun gynnwys targed yn amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y dysgwyr Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.
Roedd Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 yn cyflwyno darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddylunio eu cynlluniau yn seiliedig ar darged. Felly, roedd yn ofynnol i’r Cyngor osod targed deng mlynedd yn amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir y Fflint.
Mae Cynghorau wedi’u grwpio gan Lywodraeth Cymru i wahanol gategorïau yn adlewyrchu’r gwahaniaethau a’r elfennau tebyg rhwng y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd y ffactorau a ystyriwyd wrth grwpio yn cynnwys canran y dysgwyr a addysgir yn Gymraeg mewn ardal; modelau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a fabwysiadwyd a natur ieithyddol yr ardal. At y diben hwn mae Sir y Fflint wedi'i gosod yng Ngr?p 4. Y diffiniad o Gr?p 4 oedd 12% neu lai o blant Blwyddyn 1 yn yr awdurdodau lleol hynny oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2017/18. Roedd yna ddewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn yr awdurdodau lleol hynny.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu targed ystod is ac ystod uwch ar gyfer Sir y Fflint. Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 6 pwynt canran (ystod is) a chynnydd o 10 pwynt canran (ystod uwch) yn nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Er y dylid trin yr ystod is fel yr isafswm y dylid ei gyflawni, ni ddylid trin yr ystod uwch fel yr uchafswm. Bydd angen ystyried cynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i rywfaint rhwng 225 a 295 disgybl dros gyfnod deng mlynedd y Cynllun. Talodd deyrnged i Sian Hilton a Vicky Barlow oedd wedi arwain datblygiad y Cynllun.
Mewn ymateb i ymrwymiad gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod dysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg yn swyddogaeth statudol a bod yr awdurdod wedi ymrwymo i sicrhau fod gan athrawon yr adnoddau i ddarparu addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
PENDERFYNWYD:
Derbyn adborth ar yr ymgynghoriad ar gyfer y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg 2022-2032 a bod y cynllun yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei weithredu gan y Cyngor, yn ddarostyngedig i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
Awdur yr adroddiad: Vicky Barlow
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet
Accompanying Documents: