Manylion y penderfyniad
Climate Change Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To seek agreement and commitment to the Climate Change Strategy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 ar Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.
Roedd y Strategaeth Newid Hinsawdd yn manylu’r gwaith a wneir gan y Cyngor hyd yma: ei allyriadau carbon llinell sylfaen; a meysydd oedd angen eu datblygu ac amcanestyniad o’r cyflwr yn y dyfodol os bydd y camau hynny’n cael eu cwblhau i yrru’r Cyngor tuag at ei nod carbon niwtral/di-garbon erbyn 2030.
Dywedodd fod pawb yn gyfrifol am helpu i gyrraedd nod carbon niwtral. Yr ysgol newydd ym Mynydd Isa fyddai’r cyntaf yn y sir i fod yn garbon niwtral. Diolchodd i bawb oedd wedi cyfrannu, gan gynnwys yr Aelod Cabinet blaenorol a oedd wedi bod yn allweddol i’w yrru ymlaen.
Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad oedd yn gynhwysfawr a chadarnhaol, gan ychwanegu ei fod wedi’i annog gan y diddordeb a ddangoswyd yn y pwnc gan y bobl ifanc.
Diolchodd y Prif Swyddog (yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Cynghorydd Sean Bibby oedd yn Gadeirydd y Bwrdd Newid Hinsawdd ac roedd wedi arwain cynhyrchu’r ddogfen i Aelodau.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Butler, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod newid hinsawdd yn chwarae rhan allweddol o’r strategaeth o fewn ysgolion ac yn y gwasanaeth ieuenctid, oedd yn darparu cefnogaeth i bobl 11-25 oed.
Dywedodd y Prif Swyddog (yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai brîff ar leihau carbon yn cael ei ddarparu i Aelodau newydd yn dilyn yr etholiad a byddai hefyd yn ffurfio rhan o’r rhaglen gynefino. Byddai’r wefan hefyd yn cael ei diweddaru.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnydd a wnaed i gyflawni mesurau lleihau carbon hyd yma yn cael ei gydnabod;
(b) Bod y Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer 2022 - 2030 a’i nod yn cael ei gymeradwyo.
(c) Bod brîff ar gyfer Aelodau newydd yn dilyn yr etholiad yn cael ei drefnu i amlygu’r gwaith a wnaed hyd yma ac ymrwymiadau’r Cyngor wrth symud ymlaen, a bod y Strategaeth Newid Hinsawdd yn rhan o Raglen Gynefino’r Aelodau; a
(d) Bod gwefan y Cyngor yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y Strategaeth Newid Hinsawdd;
Awdur yr adroddiad: Alex Ellis
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 24/02/2022
Accompanying Documents: