Manylion y penderfyniad
Medium Term Financial Strategy and Annual Budget 2022/23
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide an update on the latest position for the Council Fund Revenue Budget 2022/23 in advance of receipt of the Welsh Local Government Provisional Settlement and formal budget setting process.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2022/23, cyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a phroses pennu cyllideb ffurfiol.
Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol o’r sefyllfa a adroddwyd ym mis Gorffennaf cyn i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gefnogi’r pwysau costau o fewn eu portffolios priodol. Cyflwynwyd gofyniad cyllideb ddiweddaredig ychwanegol i’r Cabinet ym mis Hydref yn bennaf oherwydd y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwr o fis Ebrill 2022. Roedd y sefyllfa gyfredol- a gymerodd i ystyriaeth dybiaethau cyflogau a chwyddiant, y cynnydd yn y gyllideb ddrafft gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac addasiadau eraill- wedi cynyddu’r gofyniad cyllideb ychwanegol ymhellach i £20.696 miliwn. Roedd yr adroddiad yn nodi newidiadau ers yr amcangyfrif blaenorol gan gynnwys effaith y cynnydd mewn chwyddiant ar gyllidebau cyflogau a chyllidebau cyfleustodau ysgolion ynghyd â chomisiynu gofal cymdeithasol. Byddai’n rhaid monitro risgiau parhaus yn ofalus, megis Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, ynghyd ag effaith dod â’r Gronfa Galedi i ben ym mis Mawrth 2022. Er bod targed effeithlonrwydd diwygiedig o £1.250 miliwn wedi ei nodi, roedd y datrysiadau ariannu er mwyn sicrhau cyllideb gyfreithlon a chytbwys yn dibynnu’n bennaf ar ymgodiad blynyddol yn y Grant Cynnal Refeniw.
Roedd adroddiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn nodi effaith pwysau costau ar draws Cymru, hefyd yn adlewyrchu’r sefyllfa leol wrth ystyried yr arbedion effeithlonrwydd sydd wedi eu nodi a’r ymgodiad blynyddol yn Nhreth y Cyngor sy’n debyg i’r hyn a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Rhannwyd llythyr at Lywodraeth Cymru ar y cyd gan bob un o chwe Chyngor Gogledd Cymru cyn y Setliad Dros Dro.
Mynegodd y Cynghorydd Paul Shotton bryderon ynghylch y pwysau costau a oedd yn dangos yr angen am ganlyniad ffafriol i’r Setliad Dros Dro.
O ran y newidiadau a wnaed ers amcangyfrif y gyllideb flaenorol, dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson bod nifer o feysydd nad oedd gan y Cyngor ddim llawer o reolaeth drostynt, os o gwbl.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Haydn Bateman.
PENDERFYNWYD:
O ystyried yr adroddiad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi yn y Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 25/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Accompanying Documents: