Manylion y penderfyniad
Licensing Act 2003 Draft Statement of Licensing Policy December 2021 – December 2026
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
For Members to consider and adopt the
Statement of Licensing Policy for the period December 2021 to
December 2026
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad gan egluro mai hwn oedd y pumed Datganiad Polisi Trwyddedu i gael ei gyhoeddi a oedd yn amlinellu disgwyliad yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas ag ymgeiswyr. Roedd hefyd yn manylu beth y gallai ymgeiswyr a defnyddwyr gwasanaeth ei ddisgwyl gan yr Awdurdod Trwyddedu.
Roedd swyddogion wedi cynnal adolygiad o’r polisi cyfredol, gan ystyried unrhyw newidiadau perthnasol i ddeddfwriaeth, canllawiau ac arferion da. Cynhaliwyd yr adolygiad mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol eraill Gogledd Cymru yn rhan o ymdrech barhaus i sicrhau cysondeb, lle bo modd, ledled y rhanbarth.
Roedd y Drafft o’r Datganiad Polisi Trwyddedu arfaethedig ar gyfer cyfnod Rhagfyr 2021–Rhagfyr 2026 wedi’i atodi i’r adroddiad. Roedd y drafft terfynol yn dangos y newidiadau roedd swyddogion wedi’u gwneud cyn ymgynghori mewn coch, a’r newidiadau a oedd wedi’u gwneud ers ymgynghori mewn glas. Roedd crynodeb o’r newidiadau wedi’i ddarparu yn yr adroddiad.
Roedd dau ymateb wedi’u derbyn mewn perthynas â’r ymgynghoriad, gan gynrychiolydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chynrychiolydd ar gyfer Deiliaid Trwydded Eiddo. Roedd manylion yr ymatebion hynny hefyd wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Sharps a’u heilio gan y Cynghorydd Small.
Mynegodd y Cynghorydd Sharps ei ddiolch i’r Tîm Trwyddedu am eu hymdrechion parhaus yn ystod y pandemig i sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i gael eu cefnogi. Diolchodd iddynt am addasu’r ffordd roeddent yn gweithio i sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i gael ei ddarparu, ac roedd eu holl gleientiaid yn croesawu hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod gwall yn yr atodiad yn 3.19, ac eglurodd nad oedd angen i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymgynghori ar unrhyw amodau roedd yn eu gosod mewn perthynas â materion diogelwch tân.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu’r Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft, dros gyfnod o bum mlynedd hyd at fis Rhagfyr 2026; ac
(b) I unrhyw benderfyniad i wneud newidiadau i’r polisi yn ystod y cyfnod o bum mlynedd gael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Trwyddedu.
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: