Manylion y penderfyniad
Disabled Facilities Grant (DFG) Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the ongoing work to improve the service.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Budd-Daliadau y polisi diwygiedig a’r grant dewisol newydd. Fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol o’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ym mis Mehefin 2018, nodwyd bod angen cynnal adolygiad o’r polisi presennol er mwyn sicrhau bod y broses a’r manylion yn fwy clir a haws i’w deall.
Amlinellodd y Rheolwr Budd-Daliadau newidiadau i’r polisi newydd ac eglurodd fod y broses wedi’i symleiddio’n fawr ar gyfer gwneud cais am grant £36,000 ar sail cyfnod 5 mlynedd o argymhellion gan arbenigwyr fel Iechyd Galwedigaethol. Ychwanegodd nad oedd prawf modd ar gyfer plant, ac nad oedd prawf modd ar gyfer unrhyw waith oedd i’w wneud dan £10,000. Roeddent hefyd wedi dileu’r gofyniad ecwiti ar gyfer grant atodol, ac roedd grantiau adleoli o hyd at £20,000 ar gael o hyd.
Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau wrth y Pwyllgor fod amserlenni Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer addasu wedi’u mabwysiadu a lle’r oedd y gwaith a wnaed wedi’i gofnodi fesul nifer dyddiau o’r blaen, byddai’n cael ei drefnu yn unol â LlC bellach, a byddai’r geiriad yn newid i fisoedd/wythnosau.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn falch bod y grant yn aros ar £36,000.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r polisi diwygiedig a’r grant dewisol newydd.
Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths
Dyddiad cyhoeddi: 30/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: