Manylion y penderfyniad
A Plan for Shotton
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To present a Plan for Shotton.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-Swyddog Gweithredol yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet, ym mis Chwefror 2021, wedi cefnogi datblygiad ‘Cynllun ar gyfer Shotton’ - gyda Gr?p Llywio amlasiantaeth yn goruchwylio’r gwaith cynhyrchu a darparu.
Mae’r rhaglen weithgareddau yn Shotton eisoes wedi gweld llwyddiannau, a amlinellir yn yr adroddiad, ynghyd â chynigion ar gyfer y camau nesaf a fyddai’n arwain at ymgysylltu'n ehangach gyda sefydliadau partner a’r gymuned i ddatblygu cynlluniau cyflenwi manylach. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r risgiau i’w hystyried a’r camau lliniaru i’w cytuno arnynt. Mae’r risgiau yn bennaf yn ymwneud ag adnoddau a gallu; rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid hyd yma; a datblygu cynllun realistig a rheoli disgwyliadau.
Byddai ymgysylltu â mwy o sefydliadau partner a budd-ddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolaeth ehangach ar y Gr?p Llywio, yn gwella’r cyfle dan y cynllun i drefnu perthnasau partneriaeth i gydweithio i gyrraedd nodau a rennir ac i gyfuno adnoddau i fanteisio i’r eithaf ar y gallu i ddarparu canlyniadau blaenoriaeth lleol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cynllun strategol lefel uchel, ‘Cynllun ar gyfer Shotton’, i bennu cyfeiriad strategol ar gyfer gwaith yn Shotton o r?an tan 2030;
(b) Cefnogi gwaith pellach i ymgysylltu gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid ehangach i ddatblygu cynlluniau cyflawni manylach a chraidd sy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n cyd-fynd â’r pedwar amcan strategol, fel y nodir yn y Cynllun ar gyfer Shotton;
(c) Nodi’r risgiau a’r camau lliniaru;
(d) Cefnogi’r ddogfen gyfathrebu/cyhoeddusrwydd ragweithiol sy’n cyd-fynd â’r adroddiad a’r cynlluniau cysylltiedig.
Awdur yr adroddiad: Katie Wilby
Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 16/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/11/2021
Accompanying Documents: