Manylion y penderfyniad
Funding, Flight-Path and Risk Management Framework
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Rhoddodd Mr Middleman y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor a dywedodd nad oedd y Gronfa wedi bod islaw lefel cyllido 100%.Ar 30 Mehefin 2021, y lefel cyllido oedd 105%, ac ar hyn o bryd, roedd 1%-2% yn uwch na hyn oherwydd perfformiad cryf o ran asedau.Ychwanegodd fod rhywfaint o nerfusrwydd o hyd wrth symud ymlaen o ran chwyddiant, ond roedd y Gronfa mewn sefyllfa gadarnhaol.
Fel a nodwyd yn y cyfarfod diwethaf, o ystyried y sefyllfa gadarnhaol o ran cyllido, roedd angen rhoi ystyriaeth i p’un a ddylid gweithredu er mwyn bancio rhywfaint o’r fantais hon.Roedd FRMG wedi cwrdd ar ôl y cyfarfod diwethaf a chafwyd trafodaeth fanwl am y mater hwn.
Cadarnhaodd Mr Middleman, ar ôl ystyriaeth, roedd FRMG wedi cytuno bod trothwy meddal newydd ar lefel gyllido 110% yn fwy priodol er mwyn rhoi ystyriaeth i p’un a ddylid gwneud newidiadau i’r strategaeth.Nododd ei bod yn bosibl y bydd y Gronfa’n cyrraedd y trothwy hwn yn gynharach na’r disgwyl, o ystyried y cyfeiriad y mae’r Gronfa’n mynd iddi.
Awgrymodd Mr Hibbert newid y trothwy meddal i drothwy caled, oherwydd roedd o’r farn bod angen trafodaethau’n fuan, gyda’r bwriad o wneud penderfyniad am fancio’r fantais mae’r Gronfa wedi’i gwneud.Nododd Mr Middleman y pwynt ond dywedodd fod nifer o ffactorau i’w hystyried cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r strategaeth.Yn benodol, byddai angen sicrhau cydbwysedd o ran y lleihad o ran risg yn erbyn lleihad cyfatebol o ran enillion disgwyliedig.Oherwydd bod modd i hyn effeithio ar gyfraniadau cyflogwyr yn ormodol, pe bai gormod o risg yn cael ei dileu. Bydd angen trafodaeth er mwyn gwneud y newidiadau hyn gan ystyried barn pob budd-ddeiliad, nid dim ond penderfyniad sy’n seiliedig ar y trothwy. Cadarnhaodd Mr Middleman, fodd bynnag, fod y 110% yn debygol o olygu y bydd rhywfaint o newid yn digwydd. Cytunodd Mr Everett ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn ymgysylltu â’r mater hwn.
Diolchodd Mr Everett i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd a dymunodd yn dda i bawb ar gyfer y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 24/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 01/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol: