Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Education Youth & Culture Overview & Scrutiny Committee and
to inform the Committee of progress against actions from previous
meetings
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a chadarnhau bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i phoblogi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Tynnodd sylw’r Aelodau at yr adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, a drefnwyd i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a ychwanegwyd at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Gladys Healey yn y cyfarfod diweddar.
Roedd yr Hwylusydd wedi awgrymu newidiadau i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, oedd yn cynnwys diweddariad ar lafar yn y cyfarfod nesaf a fyddai’n cynnwys y risgiau portffolio a nodwyd gan y Pwyllgor Adfer o amgylch effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ar eu hiechyd a’u lles emosiynol a gwytnwch mewn ysgolion tra’n rheoli nifer sylweddol o newidiadau. Hefyd awgrymwyd bod adroddiad diweddariad ar ddarparu cynlluniau Chwarae Sir y Fflint yn llwyddiannus ac adroddiad ar Raglen Haf Llawn Hwyl Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Rhagfyr. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi ychwanegu’r eitemau a awgrymwyd.
Roedd yr Hwylusydd hefyd yn darparu gwybodaeth ar ddau gam parhaus, fel yr amlinellwyd yn atodiad 2 o’r adroddiad.
Mewn ymateb i’r cwestiynau ar yr adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, roedd y Prif Swyddog wedi cadarnhau y byddai’r adroddiad yn darparu gwybodaeth am y nifer o ddisgyblion oedd yn derbyn addysg yn y cartref ar hyn o bryd ynghyd â Chyfrifoldebau Statudol y Cyngor a gorolwg o sut oedd y Gwasanaeth Lles Cynhwysiant yn rhyddhau swyddogaeth y Cyngor o ran y disgyblion hyn. Byddai’r adroddiad hefyd yn darparu gorolwg eang o’r rhesymau pam bod rhieni wedi gwneud y penderfyniad i addysgu eu plant yn y cartref.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 16/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: