Manylion y penderfyniad

Housing Strategy and Action Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review progress made on the Housing Strategy Action Plan and provide feedback and comments.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad diweddaru blynyddol i adolygu’r cynnydd ar y camau gweithredu o fewn tri maes blaenoriaeth y Strategaeth Tai Lleol 2019-24, yn amlinellu sut fyddai’r Cyngor, gyda’i bartneriaid, yn darparu tai fforddiadwy, rhoi cefnogaeth berthnasol i’w breswylwyr a sicrhau bod tai cynaliadwy yn cael eu creu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Rhaglenni Tai bod cynnydd da wedi bod er gwaethaf effaith yr heriau sy’n codi o’r pandemig Covid-19.   Bu iddo grynhoi’r pwyntiau allweddol yn nhermau’r newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, y fframwaith newydd ar gyfer cael mynediad at grantiau tai cymdeithasol a datblygu prosbectws ar anghenion tai lleol.   Roedd y Cynllun Gweithredu yn cynnwys cynlluniau i gynyddu darpariaeth gofal ychwanegol ar draws y Sir drwy ddatblygu cyfleuster ym Mwcle a chynyddu’r gefnogaeth i fynd i’r afael â digartrefedd a oedd wedi cynyddu’n genedlaethol yn ystod y sefyllfa frys.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay ar breswylwyr gyda dyledion rhent, bu i’r Prif Weithredwr gydnabod y ffactorau amrywiol sy’n rhan a dweud bod cefnogaeth ar gael i’r rhai a oedd yn fodlon ymgysylltu gyda’r Cyngor i leihau eu dyledion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ray Hughes am adeiladu eiddo ffrâm goed  i gynyddu cyflenwad tai fforddiadwy.   Dywedodd y Prif Weithredwr bod dulliau modern o adeiladu yn cael eu defnyddio ar rai o gynlluniau tai’r Cyngor a bod angen datblygu’r farchnad a’r sgiliau sy’n rhan.   Nododd gais y Cynghorydd Hughes am ymweliad safle i weld enghraifft o’r math yma o gynllun tai.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, siaradodd y swyddogion am waith ar gynllun tai lleol penodol a oedd yn ffurfio rhan o brosiect peilot cenedlaethol.   Rhannwyd gwybodaeth hefyd am gyfleoedd prentisiaeth a oedd yn rhan o’r fframwaith caffael ar gyfer cynlluniau tai.

 

Cafodd yr argymhelliad, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Ray Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed i fodloni’r blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Strategaeth Tai Lleol 2019-24.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2021

Dyddiad y penderfyniad: 10/11/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Accompanying Documents: