Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
This regular monthly report provides the
latest revenue budget monitoring position for 2021/22 for the
Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on
actual income and expenditure as at Month 5, and projects forward
to year-end.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw yn 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, erbyn Mis 5.
Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:
Cronfa’r Cyngor
- Gwarged gweithredol o (£0.182m) (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o’r cronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.921 miliwn ers ffigwr y diffyg o £0.739m a adroddwyd ym Mis 4.
- Rhagwelid y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £5.875 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.633m yn uwch na’r gyllideb.
- Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.839m.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am sefyllfa pob portffolio; amrywiadau arwyddocaol y mis hwnnw; faint o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn a gafodd eu cyflawni; cyllid mewn argyfwng; cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi eu clustnodi.
O ran cyllid mewn argyfwng, esboniodd fod £206.6m wedi ei neilltuo’n wreiddiol ar gyfer y Gronfa Galedi i gefnogi llywodraeth leol ar gyfer chwe mis cyntaf 2021-22 yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2021-22. Yn ogystal â hyn, neilltuwyd £23.3m i helpu gyda phrydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol. Cafodd £97.5m arall ei neilltuo wedi hynny hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol yn seiliedig ar batrymau gwario hyd yma, unrhyw newidiadau i ddulliau polisi a’r lefel rhybudd bresennol.
Cafodd Egwyddorion a Chanllawiau’r Gronfa Galedi eu diwygio o 1 Hydref, gyda’r newidiadau’n effeithio ar gymhwystra ar gyfer sawl maes gwasanaeth yn cynnwys costau ysgolion, tunelledd gwastraff ychwanegol (50% yn is) a chostau cerbydau gan nad oes rhaid cadw pellter cymdeithasol mwyach. Roedd costau i gyflogi staff ychwanegol gan fod staff yn sâl o’u gwaith oherwydd COVID-19 neu’n hunanynysu yn gymwys tan fis Hydref, hyd nes y cynhelir adolygiad pellach. Byddai effeithiau arwyddocaol posibl hynny’n cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau yn y dyfodol, er y byddai camau gweithredu lliniarol yn cael eu rhoi ar waith lle bo hynny’n bosibl.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22;
(b) Cymeradwyo newid defnydd ar gyfer balans gwasanaeth Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi; a
(c) Cymeradwyo rhyddhau £0.585m o falansau a chronfeydd wrth gefn sydd heb gael eu defnyddio yn ôl i’r gronfa wrth gefn gyffredinol.
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 19/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 28/10/2021
Dogfennau Atodol:
- Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5) PDF 169 KB
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5) PDF 17 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5) PDF 131 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5) PDF 19 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5) PDF 45 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5) PDF 95 KB
- Enc. 6 for Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 5) PDF 68 KB