Manylion y penderfyniad
Statement of Accounts 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present the final audited version of the Statement of Accounts 2020/21 for approval.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2020/21 a oedd yn ymgorffori’r newidiadau a gytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliad.
Wedi i’r cyfrifon drafft gael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf, dosbarthwyd atebion i’r cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor, ac ni chodwyd unrhyw faterion pellach yn ystod y cyfnod ymgynghori dros yr haf. Nid oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro, nac unrhyw faterion arwyddocaol wedi codi yn ystod yr archwiliad a oedd yn agos at gael ei gwblhau. Roedd crynodeb o’r camddatganiadau a gafodd eu cywiro wedi’i atodi i’r adroddiad, a nodwyd y byddai newid yn cael ei wneud i nodyn 15 yngl?n ag ‘arian parod a chywerthoedd arian parod’ cyn i’r adroddiad gael ei gymeradwyo’n derfynol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r fersiwn derfynol ar y sail honno, a oedd o fewn y dyddiad cau statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi’i ymestyn yn sgil y pandemig parhaus.
Cafwyd cyflwyniad gan Matt Edwards o Archwilio Cymru yngl?n â meysydd a chanfyddiadau allweddol yr archwiliad:
· Cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol
· Sefyllfa’r Archwiliad
· Canfyddiadau cyffredinol
· Effaith COVID-19 ar yr archwiliad eleni
· Annibyniaeth
· Edrych i’r dyfodol
Yn ystod y cyflwyniad, diolchodd Matt Edwards i swyddogion y Cyngor am eu gwaith yn llunio’r datganiadau ariannol i safon dda mewn modd amserol er gwaethaf yr heriau sy’n deillio o weithio o bell yn sgil pandemig Covid-19. Dywedodd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor, bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn ddiamod ar y datganiadau ariannol.
Cydnabu Allan Rainford y gwaith a wnaed gan y swyddogion er mwyn cyflawni’r canlyniad cadarnhaol hwn. Gan ymateb i gwestiwn, eglurodd Matt Edwards y broses o adolygu ffigurau amcan ar gyfer asedau a rhwymedigaethau pensiwn y Cyngor, a chadarnhaodd nad oedd unrhyw faterion wedi’u nodi i’w codi gyda’r Pwyllgor.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr amserlen ar gyfer y cyfrifon blynyddol y flwyddyn nesaf – yr amserlen hirach bresennol neu’r un fyrrach newydd – yn parhau yn agored fel cwestiwn, ac y byddai’n dibynnu ar drafodaethau gydag Archwilio Cymru. Soniodd hefyd am ganlyniadau cadarnhaol cydweithio â chydweithwyr yn Archwilio Cymru a sefydlu’r Gr?p Llywodraethu Cyfrifon.
Fel Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael, canmolodd y Cynghorydd Paul Johnson dimau’r Cyngor a chydweithwyr yn Archwilio Cymru am y ffordd yr oeddent wedi gweithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod argyfwng er mwyn cwblhau’r cyfrifon.
Wrth ddiolch i gydweithwyr yn Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb drwy gydol y broses, fe wnaeth y Rheolwr Cyllid Corfforaethol hefyd ddatgan ei werthfawrogiad i gydweithwyr Cyllid ar draws y sefydliad am helpu i gynnal ansawdd y cyfrifon ac yn enwedig swyddogion allweddol yn yr Adran Gyllid Corfforaethol.
Cymeradwywyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Martin White ac fe’u heiliwyd hwy gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2020/21;
(b) Nodi cyflwyniad Archwilio Cymru ‘Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol y Gr?p 2020/21 - Cyngor Sir y Fflint’; ac
(c) Cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Accompanying Documents: