Manylion y penderfyniad

Streetscene and Transportation Portfolio Recovery Business Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Adfer

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio Gynllun Busnes Adfer ar gyfer y Portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Fe soniodd am yr amcanion adfer oedd yn ymwneud â darparu gwasanaeth fel y manylir yn yr adroddiad, a dywedodd bod pob gwasanaeth bellach yn gwbl weithredol. Rhoddodd drosolwg o’r risgiau adfer fel y manylir yn yr adroddiad a dywedodd bod 26 risg yn cael eu monitro ar hyn o bryd (3 yn goch, 3 yn oren, 3 yn felyn, 7 yn wyrdd a 14 wedi’u cau).  

 

Mynegodd y Cynghorydd Marion Bateman bryderon yngl?n â gohirio a blaenoriaethu cynlluniau oedd wedi’u trefnu o dan waith adeiladu priffordd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y byddai’n ceisio cael rhagor o wybodaeth ar ôl y cyfarfod am gynllun penodol yr oedd y Cynghorydd Bateman wedi’i grybwyll.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Glyn Banks deyrnged i swyddogion a gweithwyr Gwasanaethau Stryd a Chludiant am eu gwaith a’u gwytnwch trwy gydol heriau’r pandemig.

 

Fe soniodd y Cynghorydd David Healey am effaith newid hinsawdd ar adnoddau ac adferiad gwasanaethau.

 

Gan ymateb i sylwadau a phryderon y Cynghorwyr Marion Bateman a David Healey, fe awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r materion a godwyd gael eu hatgyfeirio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.  Fe eglurodd y Prif Weithredwr y byddai effaith cymhleth yr oedi â’r gadwyn gyflenwi ar raglenni cyfalaf (yn cynnwys pob cynllun) yn cael ei ystyried. Fe soniodd hefyd nad oedd yr adnoddau a’r ymrwymiad i newid hinsawdd a llifogydd yn cael ei effeithio gan y gwaith adfer ac roedd atal llifogydd, a chapasiti i ymateb yn cael ei wella ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Fe ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i gwestiynau gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â chofnodi data am frechu a hunan-ynysu ymysg gweithwyr rheng flaen. Dywedodd bod hunan-ynysu gan weithwyr yn cael ei gofnodi’n fisol er mwyn monitro ac asesu effaith y pandemig wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fe eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y Cyngor yn cael cadw cofnod o weithwyr oedd wedi cael eu brechu gan mai data preifat oedd hyn oedd yn eiddo i’r unigolyn. Gan ymateb i sylwadau’r Cynghorydd McGuill, fe awgrymodd bod adroddiad am effeithiau ar weithluoedd ar draws y Cyngor yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Fe awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts bod cyfarfod yn cael ei gynnal gyda D?r Cymru er mwyn ystyried eu rhaglenni modelu. Manteisiodd y Cynghorydd Roberts ar y cyfle i ddiolch i holl weithwyr Gwasanaethau Stryd a Chludiant am eu gwaith penigamp yn ystod y pandemig. 

 

Gan ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Patrick Heesom, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i drafod y materion a godwyd yngl?n â chludiant gyda’r Cynghorydd Heesom, gyda’r bwriad o ddatrys problemau lleol. 

 

 

Fe soniodd y Cynghorydd am yr angen i dorri gwair ar leiniau glas a llwybrau cyhoeddus wrth ochr priffyrdd, a dywedodd bod hyn achosi cwynion gan y cyhoedd mewn rhai ardaloedd.  Mynegodd y Cynghorydd Paul Cunningham bryderon hefyd am wrychoedd/ canghennau oedd yn hongian drosodd ar lwybrau troed cyhoeddus. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio sicrwydd bod darpariaeth gwasanaeth llawn yn ailgychwyn o fewn cyfyngiadau’r polisïau ac atodlenni sydd yn eu lle cyn Covid-19.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Marion Bateman bod effaith y pandemig ar flaenoriaethu cynlluniau priffyrdd yn cael eu hatgyfeirio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.  

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Ian Roberts, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i ddarparu costau i brynu/llogi glanhawyr cwteri ychwanegol, yn ogystal â chostau staffio am weithrediad 12 mis a’r goblygiadau ar Dreth y Cyngor.   

 

Fe awgrymodd y Cadeirydd bod y materion penodol a godwyd am effaith y pandemig ar gynlluniau priffyrdd, glanhau cwteri, torri gwair a llifogydd yn cael eu hatgyfeirio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi cynnwys Cynllun Busnes Adfer y Portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant;

 

 (b)     Rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor gan Gynllun Busnes Adfer y Portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant;

 

 (c)      Atgyfeirio’r canlynol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi:-

 

·         effaith y pandemig ar flaenoriaethu cynlluniau priffyrdd, gwagio cwteri, torri gwaith, a llifogydd.

 

 (d)     Bod y canlynol yn cael ei atgyfeirio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol:- 

 

·         cyflwyno adroddiad am effaith hunan-ynysu ar y gweithlu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid Corfforaethol ym mis Medi.

 

·         ystyried effaith y pandemig, oedi gyda chadwyni cyflenwi, a chwyddiant ar y rhaglen gyfalaf ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2021

Dyddiad y penderfyniad: 05/08/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/08/2021 - Pwyllgor Adfer

Accompanying Documents: