Manylion y penderfyniad
Revenue budget monitoring 2021/22 (Interim)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To receive the first budget monitoring report for the new financial year.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi'r trosolwg cyntaf o sefyllfa fonitro'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Adroddwyd drwy eithriad ar amrywiadau arwyddocaol a allent effeithio ar sefyllfa ariannol 2021/22.
Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o £1m.
Byddai’r gallu i liniaru’r risgiau ariannol a gododd yn sgil y pandemig yn hanner cyntaf y flwyddyn yn dibynnu i raddau helaeth ar barhad arian caledi a cholled incwm gan Lywodraeth Cymru. Ar y cam hwn roedd yn ansicr a fyddai’r Gronfa Caledi’n cael ei hymestyn y tu hwnt i fis Medi pe bai’r cyfyngiadau presennol cysylltiedig â’r pandemig yn parhau. Ni chymerwyd unrhyw ystyriaeth o’r risgiau ariannol a fyddai’n codi pe na cheid unrhyw arian ychwanegol mewn sefyllfa o bandemig hirfaith.
Bydd adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fydd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ariannol gyffredinol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb ariannol 2021/22;
(b) Cymeradwyo trosglwyddiad cyllidol o £0.175m rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig o fewn cyllideb brynu’r Gwasanaethau Pobl H?n, a throsglwyddiad cyllidol o £0.300 rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i'r Gyllideb Gwasanaethau Iechyd Meddwl Preswyl; a
(c) Cymeradwyo clustnodi arian o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid ar gyfer Buddsoddi mewn Newid (£0.400m) a Thywydd Garw (£0.250m).
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 22/07/2021
Dogfennau Atodol: