Manylion y penderfyniad
Early Years
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To share the achievements of the Early Years and Family Support Service and proposals for future priorities.
Penderfyniadau:
Rhannodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd fideo byr yn dangos y cynnydd hyd yma o rywfaint o’r gwaith cyfalaf oedd wedi digwydd o amgylch Sir y Fflint ar gyfer y Cynnig Gofal Plant a Ariannwyd ar gyfer plant 3 i 4 oed a rhywfaint o’r Cyllid Cyfalaf Dechrau'n Deg a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y Cadeirydd yn gofyn sut oeddem yn estyn allan at deuluoedd ble nad oedd Saesneg yn iaith gyntaf iddynt yn arbennig bobl Ewropeaidd Dwyreiniol nad oes ganddynt deulu yma i’w cefnogi gyda gofal plant i’w galluogi i weithio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod y cynlluniau cyfalaf mawr yn bennaf ar gyfer Gofal Plant a Ariannwyd i blant 3 i 4 oed oedd yn cefnogi rhieni oedd yn gweithio a phlant a ariannwyd drwy’r Cynnig Gofal Plant. Fodd bynnag, os byddai lleoedd ar gael, gallai’r lleoedd gofal plant fod ar gael i oedrannau eraill o blant yn seiliedig ar gofrestr lleoliadau AGC. Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn newid meini prawf cymhwyster Cynnig Gofal Plant yn y dyfodol i gynnwys rhieni yn hyfforddi, a fyddai’n ehangu’r cwmpas. O ran lleoedd Cyfle Cynnar, roedd y rhain wedi eu cysylltu â gofal plant ac addysg a oedd yn agored i unrhyw un â diddordeb. Byddai gofal plant yn cael ei gofrestru yn y ffordd arferol i bobl ymgeisio ac roedd demograffeg yn cael ei fonitro i weld pwy oedd yn defnyddio’r cyfleusterau.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Mackie y Rheolwr Cefnogi Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd ar adroddiad ardderchog gan ei fod yn cynnwys cymaint o wybodaeth ym mhob paragraff yn adran un ac y byddai pob paragraff wedi gallu bod yn adroddiad ar wahân i’r Pwyllgor hwn. Hefyd, ychwanegodd fod atodiad yn syml i’w ddarllen a’i ddeall.
Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman fod cynnydd ar yr adeilad newydd yn Ysgol Sychdyn yn datblygu’n da.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull ar gyfer darpariaeth Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, a chydweithio gyda phartneriaid allweddol a datblygu Strategaeth Blynyddoedd Cynnar yn y dyfodol.
(b) Bod y cynnydd ac effaith a gyflawnir drwy gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei nodi;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygiad rhaglenni gyda sail tystiolaeth gadarn o’r effaith a chost effeithiolrwydd wrth gomisiynu gwasanaethau blynyddoedd cynnar ac ymyrraeth gynnar. A bod y cyngor a phartneriaid yn parhau i ddatblygu ei sail tystiolaeth leol ei hun i gefnogi ymyrraeth gynnar gadarnhaol a
(d) Bod y Pwyllgor yn cefnogi adnewyddu Fframwaith Rhaglenni Rhianta Sir y Fflint, ac yn cefnogi camau a gymerir i godi ymwybyddiaeth a budd rhaglenni rhianta gyda phartneriaid allweddol fel bod rhaglenni yn hygyrch ac ar gael i ateb anghenion rhieni.
Awdur yr adroddiad: Craig Macleod
Dyddiad cyhoeddi: 04/05/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: