Manylion y penderfyniad

Commencement of the Socioeconomic Duty

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update Overview and Scrutiny of our preparedness for the commencement of the socio-economic duty

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad ar baratoadau'r Cyngor ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Roedd hwn yn ofyniad statudol i gyrff cyhoeddus perthnasol roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o'r rhwymedigaethau newydd.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a'r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymwneud â'r canlynol:

 

·         Beth yw'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a beth mae'n ei wneud?

·         Termau allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus - trywydd archwilio

·         Cyflawni'r ddyletswydd - yr hyn yr ydym yn ei wneud

·         Gwell canlyniadau

·         Astudiaeth achos

 

Nod cyffredinol y ddyletswydd oedd sicrhau gwell canlyniadau i bobl sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol trwy wrando ar yr unigolion hynny a dangos sylw dyladwy. Roedd y ddeddfwriaeth yn gysylltiedig â gwahanol ffrydiau gwaith i fynd i'r afael â thlodi a nodwyd fel un o'r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor. Byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn arwain ar thema dlodi gyfan Cynllun y Cyngor ac yn derbyn adroddiadau rheolaidd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Vicky Perfect y mentrau i fynd i’r afael â thlodi bwyd, yn enwedig y rhai sy’n helpu disgyblion yn ystod gwyliau ysgol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd Paul Shotton, darparodd y Rheolwr Budd-daliadau wybodaeth am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi bwyd a menter ar y cyd rhwng y Cyngor a chwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf ar gynllun atgyfeirio i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd mewn angen.

 

Croesawodd y Cynghorydd Patrick Heesom y gwaith sy'n cael ei wneud i reoli newidiadau cymdeithasol mewn cymdeithas.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Joe Johnson a David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn sicr o barodrwydd y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd newydd.

Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko

Dyddiad cyhoeddi: 26/07/2021

Dyddiad y penderfyniad: 08/06/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: