Manylion y penderfyniad
Arosfa Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide details of the new service model and the difference it will make for children and young people.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod Arosfa yn wasanaeth sefydledig sy’n darparu gwyliau byr dymor a seibiant ar gyfer plant gydag anableddau. Cafodd adain chwith nad oedd yn cael ei ddefnyddio yn Arosfa ei ailwampio i ddarparu dau le ychwanegol yn y cyfleuster, a roedd y llefydd hyn yn rhoi lle i hyd at bedwar o blant gan ddefnyddio modelau gofal hyblyg a gofal a rennir.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y gwasanaeth ychwanegol yn ychwanegiad i’r darpariaeth seibiant byr cyfredol ar gyfer hyd at dri o blant ar unrhyw adeg. Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn galluogi’r Cyngor i gefnogi uchafswm o bedwar o blant ar un tro.
Bydd y ddarpariaeth o ddau le ychwanegol ar gyfer seibiant gofal a rennir yn rhan o fwriad strategol y Cyngor i leihau dibyniaeth ar Leoliadau drud y Tu Allan i’r Sir, a byddai’n galluogi Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc o fewn y sir. Byddai’n cynyddu’r cynhwysedd cyfredol sydd gan Sir y Fflint a mwy o ddarpariaeth gofal seibiant o fewn gweledigaeth yr uchelgais strategol.
PENDERFYNWYD:
I gydnabod y cynnydd a wnaethpwyd yn Arosfa, a’r cyfle i ddarparu cefnogaeth hyblyg ychwanegol ar gyfer hyd at bedwar o blant a’u teuluoedd, gyda'r bwriad o gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac yn agosach i’w cartrefi, ac i gael cefnogaeth.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/05/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/05/2021
Dogfennau Atodol: