Manylion y penderfyniad
Council Plan 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval of the Council Plan 2021/22 Part 1 and Part 2 ready for adoption by County Council in June.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/23 yn cael ei fabwysiadu gyda’r pwrpas o osod y prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer y tymor etholiadol cyfredol. Roedd y cynllun yn amodol i adolygiad blynyddol.
Roedd strwythur a chynnwys y Cynllun ar gyfer 2021/22 wedi cael ei adolygu a’i adfywio, ac yn ystyried adferiad parhaus yn ychwanegol i’r amcanion strategol hirdymor.
Cyhoeddwyd Cynllun y Cyngor mewn dwy ddogfen. Byddai Rhan 1 yn gosod y bwriad, a Rhan 2 yn gosod y risgiau, y mesuryddion perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir y byddai cyflawniadau yn cael eu mesur a’u gwerthuso'n eu herbyn.
Cafodd y fframwaith ei greu o amgylch chwe thema:
· Yr Economi;
· Addysg a Sgiliau;
· Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd;
· Tai Fforddiadwy a Hygyrch;
· Lles Personol a Chymunedol; a
· Tlodi
Eglurodd y Prif Weithredwr bod datganiad strategol yn mynd gyda phob un o’r chwe thema a oedd yn arwain at amcanion llesiant. Cafodd y themâu eu mapio yn erbyn y Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i adrodd ac atebolrwydd. Y Cabinet fydd yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun. Roedd Rhan 1 wedi’i rannu gyda’r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg i’w adolygu ac i gael sylwadau; nid oedd angen newid sylweddol i Rhan 1 gan fod y Pwyllgorau yn gefnogol, Roedd Rhan 2 wedi’i gymeradwyo i’r argymell gyda hyder bod yr Aelodau yn cefnogi Rhan 1 fel uwch-strwythur y Cynllun.
Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Gorffennaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn ei ffurf terfynol yn cael ei gymeradwyo i’w argymell i’r Cyngor; a
(b) Bod cynnwys Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2021/22 yn cael ei gymeradwyo yn ychwanegol i Rhan 1 i’w argymell i’r Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/05/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/05/2021
Dogfennau Atodol: